Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd WLGA:
“Mae WLGA yn croesawu’r cyhoeddiad o £111m yn dod i Gymru ar gyfer saith prosiect Lefelu. Mae ymestyn yr amserlen ar gyfer cwblhau prosiectau i fis Mawrth 2026 hefyd yn gam cadarnhaol, o ystyried yr amser sydd ei angen i gyflawni prosiectau cyfalaf. Yn gyffredinol, mae Cymru wedi elwa o £440m dros y tair rownd o LUF, gan gefnogi 28 o brosiectau. Rwy’n llongyfarch yr holl gynghorau hynny sydd wedi cael ceisiadau llwyddiannus, gan helpu Cymru i ‘ddyrnu uwchlaw ein pwysau’ yn y gyfran o’r cyllid a ddyfarnwyd. Fodd bynnag, er bod hyn yn cael ei groesawu, wrth symud ymlaen, mae’n rhaid i’r cyllid cyffredinol ar gyfer lefelu i fyny gyfateb i’r lefelau blaenorol o gyllid yr UE a rhaid inni sicrhau nad yw Cymru ar ei cholled.”
Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Llefarydd WLGA dros yr Economi:
“Mae’n bob amser yn dda clywed am brosiectau sy’n derbyn cyllid sy’n cefnogi ymdrechion datblygu rhanbarthol ehangach yng Nghymru. Rwy’n arbennig o falch o weld tri phrosiect yn ardal Dinas-ranbarth Bae Abertawe yn cael eu hariannu yn y rownd hon. Fodd bynnag, mae'n siomedig, ar ôl tair rownd, fod pedair ardal cyngor o hyd nad ydynt wedi derbyn unrhyw arian LUF. O ystyried bod 18 ardal wedi elwa o LUF, nid yw’r cysyniad neu’r nod o ‘lefelu i fyny’ erioed wedi’i wneud yn arbennig o glir. Os mai Cymru oedd dal i fyny â gweddill y DU, mae gan bob cyngor feysydd oddi mewn iddynt y mae angen cymorth arnynt. Gobeithiwn weld ymgysylltu ymlaen llaw â Llywodraeth y DU, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru ar gynlluniau ar gyfer LUF neu unrhyw olynydd yn y dyfodol.”
DIWEDD –