Wrth ymateb i gyhoeddiad y Prif Weinidog heddiw, dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd WLGA:
“Nawr wedi’i gadarnhau na fydd y cynlluniau ar gyfer cymal gogleddol HS2 i Fanceinion yn mynd yn eu blaenau, rydym yn disgwyl i ddadl Llywodraeth y DU fod HS2 yn ‘brosiect Cymru a Lloegr’ arwain at gyfran deg o’r £36bn sy’n cael ei arbed. i'w wario ar brosiectau trafnidiaeth yng Nghymru.
“Mae’r Prif Weinidog eisoes wedi datgan y bydd pob ‘rhanbarth’ y tu allan i Lundain yn derbyn yr un buddsoddiad gan y llywodraeth neu fwy nag y bydden nhw wedi’i wneud o dan HS2 gyda chanlyniadau cyflymach. Rhaid i hynny fod yn berthnasol i Gymru hefyd a rhaid iddo fod ar raddfa sy’n adlewyrchu anghenion Cymru, lle’r ydym wedi cael ein tanariannu’n gyson o ran trafnidiaeth rheilffyrdd. Rydym yn croesawu’n fawr y cyhoeddiad o £1bn ar gyfer trydaneiddio prif reilffordd Gogledd Cymru ond hoffem weld prosiectau trafnidiaeth pwysig eraill ledled Cymru yn cael eu hariannu hefyd.”
DIWEDD –