Cydnabyddiaeth i gynghorwyr o Gymru mewn gwobrau cenedlaethol

Dydd Mawrth, 07 Rhagfyr 2021

Mae dau gynghorydd o Gymru wedi derbyn cydnabyddiaeth am eu cyfraniadau i’w cymunedau yng Ngwobrau Cenedlaethol Cynghorwyr gan Uned Wybodaeth Llywodraeth Leol (LGIU).  Enillodd y Cynghorydd  Kevin Etheridge o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili Wobr Hyrwyddwr Cymunedol  a’r Cynghorydd Neil Prior o Gyngor Sir Penfro yn cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Arloesi a Thrawsnewid Gwasanaeth.

 

Dywedodd y Cyng. Huw David (Pen-y-bont ar Ogwr), Llywydd CLlLC:  

 

“Ar ran CLlLC, hoffwn longyfarch Kevin a Neil ar eu cydnabyddiaeth yng Ngwobrau Cynghorwyr y DU.  Digwyddiad LGIU yw’r unig gynllun gwobrwyo cenedlaethol sy’n cydnabod gwaith allweddol y cynghorwyr ar draws y DU ac rydym yn falch bod dau gynghorydd o Gymru ymysg y rhai a gafodd gydnabyddiaeth yn y gwobrau hyn.”

 

Cyflwynwyd Gwobr Hyrwyddwr Cymunedol i’r Cyng. Kevin Etheridge yn y seremoni ar 1 Rhagfyr am ei waith yn hyrwyddo ac ymgyrchu ar faterion lleol fel banciau bwyd, diogelwch ffyrdd a chau toiledau cyhoeddus.  Roedd y Cynghorydd Neil Prior, sydd hefyd yn Ddirprwy Lefarydd CLlLC ar gyfer gweithredoedd Digidol ac Arloesi, ar y rhestr fer am ei waith yn Sir Benfro ar gymunedau cysylltiol, gan gysylltu pentrefannau a phentrefi yn yr ardal yn ystod y pandemig. 

 

Ychwanegodd y Cyng. David:

 

“Mae’r gwobrau hyn a llwyddiannau Kevin a Neil yn dangos y cyfraniad sylweddol a wneir gan gynghorwyr yn ein cymunedau.  Mae cynghorwyr yn gwneud gwahaniaeth mawr ac wedi bod yn rhan allweddol o gydlynu’r ymateb lleol a chefnogi pobl yn ystod y pandemig.  Mae Cynghorwyr yn cefnogi safbwyntiau ac yn darparu llais ar ran eu cymuned, yn dylanwadu ar wasanaethau cyhoeddus lleol ac yn ymateb i bryderon lleol”

 

Mae CLlLC ac awdurdodau lleol wedi ymrwymo i hyrwyddo amrywiaeth ac yn annog mwy o bobl amrywiol i gamu ymlaen ac ystyried sefyll mewn etholiad yn yr etholiadau lleol fis Mai nesaf.  I gael rhagor o wybodaeth ac i weld astudiaethau achos o amrywiaeth o gynghorwyr yn trafod eu profiadau a’r rhesymau dros fod yn gynghorwyr ewch i  Bod yn Gynghorydd.

 

Nodiadau i Olygyddion

 

Mae Gwobrau Cynghorwyr yn awr yn eu 12fed blwyddyn ac yn cefnogi’r hyn y mae cynghorwyr lleol yn ei wneud ar ran eu cymunedau.  Derbyniwyd dros 400 o enwebiadau ac roedd 48 o gynghorwyr ar y rhestr fer ar draws saith categori.  Dewiswyd yr enillwyr gan grŵp o feirniaid oedd yn cynnwys uwch gynghorwyr a budd-ddeiliaid arweiniol ar draws y sector.

 

Gellir gweld cyflawniadau’r cynghorwyr ar y rhestr fer ar-lein ar YouTube (Cyng. Etheridge o 13.23 a’r wobr am 27.45 a’r Cyng. Prior o 44.49).

 

 

Categorïau: Newyddion

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30