Mae CLlLC yn rhybuddio y gall gwasanaethau lleol fod mewn “perygl angheuol” os nad yw cyllid pellach yn cael ei ddarparu i Gymru gan San Steffan.
Yn ystod Cynhadledd Blynyddol CLlLC yn Llandudno yr wythnos hon, cafodd cynadleddwyr y cyfle i glywed gan y Prif Weinidog, Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol, a’r Dirprwy Weinidog dros Bartneriaeth Gymdeithasol, gan amlygu graddfa enfawr y pwyseddau y mae gwasanaethau cyhoeddus yn eu wynebu.
Rhannodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru eu dadansoddiad hefyd o’r rhagolwg economaidd i Gymru.
Rhagwelir y bydd cynghorau yn wynebu pwyseddau o £600m i £750m dim ond yn 2024-25, o ganlyniad i lefelau aruthrol o chwyddiant, a’r galw di-ben draw ar wasanaethau megis gofal cymdeithasol.
Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Llefarydd CLlLC dros Gyllid ac Adnoddau:
“Yn feunyddiol, mae pobl ymhob rhan o Gymru yn dibynnu ar wasanaethau bara menyn llywodraeth leol megis gofal cymdeithasol, addysg, a thai a digartrefedd.
“Rydym i gyd fel aelodau CLlLC yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am y berthynas agos ac adeiladol gyda Llywodraeth Cymru, ac am eu gonestrwydd. Does dim dwywaith gennym ni bellach bod perygl angheuol i’r gwasanaethau o’r fath os nad oes cyllid sylweddol yn cael ei addo i Gymru.
“Byddai eu colled yn glec ddinistriol i gymunedau mewn cyfnod pan fo’u hangen yn fwy nag erioed yng nghanol yr argyfwng Costau Byw presennol. Yn y pen draw, pobl mewn cymunedau ar draws Cymru fydd yn talu’r pris drudfawr os yw llywodraeth y DU yn methu i ddarparu cyllid i Lywodraeth Cymru i’w basio ymlaen i lywodraeth leol.”
“Mae pob cyngor yng Nghymru yn unedig yn eu galwad i Lywodraeth y DU: darparwch y cyllid sydd ei angen i’n cymunedau ar frys.”
DIWEDD -