Sefydlwyd “Tîm Awtistiaeth Cymru ar y We” gan y Tîm Awtistiaeth Genedlaethol ar ddechrau cyfnod clo Covid-19, ac mae ei gyfarfodydd yn parhau i gael eu trefnu a’u harwain gan Arweinydd Proffesiynol Awtistiaeth Genedlaethol. Mae’r Grŵp yn cynnwys pobl awtistig, pobl broffesiynol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol, grwpiau gwirfoddol o bob cwr o Gymru a’r Tîm Awtistiaeth Genedlaethol. Mae’r Grŵp wedi bod yn cyfarfod yn wythnosol i drafod achosion “byw” sydd yn wynebu’r gymuned awtistig ac i baratoi adnoddau defnyddiol i gefnogi pobl awtistig a’u teuluoedd a’u gofalwyr yn ystod Covid-19.
Yna mae’r adnoddau yn cael eu rhannu ar hwb dudalen we Tîm Awtistiaeth Genedlaethol Gwybodaeth Coronafeirws (Covid-19) a’u cyhoeddi ar dudalennau Tîm Awtistiaeth Genedlaethol Facebook a Twitter Mae’r holl adnoddau y bydd y Grŵp yn eu llunio ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac yn cynnwys, ond ddim yn gyfyngedig i:
Mae’r cyfarfodydd yn cael eu cynnal ar y we sydd yn galluogi seicolegwyr a seiciatryddion o bob cwr o’r wlad i fynychu, ni fyddai’r arbenigwyr hyn ar gael fel arall oherwydd diffyg amser i deithio i’r cyfarfodydd. Wrth i gyfyngiadau’r cyfnod clo barhau i gael eu llacio yng Nghymru, bydd y Grŵp yn cyfarfod yn llai aml ond yn parhau i ddatblygu cyngor ac arweiniad defnyddiol ynghylch achosion fel pontio nôl i ysgol, trafnidiaeth a brechiadau.