CLILC

 

Rhaglen Gefnogi Trosglwyddiad ac Adferiad

Mae’r Rhaglen Gefnogi Trosglwyddiad ac Adferiad, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn darparu cymorth i Awdurdodau Lleol wrth iddynt weithio tuag at ddod yn garbon net sero erbyn 2030.

 

Gan ganolbwyntio ar y pedwar thema allweddol o fap llwybr datgarboneiddio Llywodraeth Cymru; adeiladau, defnydd tir, cludiant a chaffael, bydd y rhaglen yn darparu ystod o gefnogaeth gan gynnwys pecynnau gwaith, ymchwil wedi’i gomisiynu ar ymyraethau i gyflawni sero net, hyfforddiant i adeiladu gwybodaeth ac arbenigedd, a digwyddiadau i hwyluso rhannu arferion da. 

 

Bydd y dudalen gwe yn cael ei diweddaru yn rheolaidd gyda gwybodaeth ar y rhaglen ac yn darparu banc o adnoddau i gefnogi Awdurdodau Lleol ar y siwrnai tuag at ddatgarboneiddio.


I gael rhagor o wybodaeth ar y Rhaglen Gefnogi Trosglwyddiad ac Adferiad, cysylltwch â Jenny Lloyd, Cydlynydd y Rhaglen jenny.lloyd@wlga.gov.uk

https://www.wlga.cymru/transition-recovery-support-programme