Colli swyddi Tata yn “ergyd ysgytwol” yn lleol ac yn genedlaethol

Dydd Gwener, 19 Ionawr 2024

Mynegwyd pryderon difrifol gan arweinwyr cyngor ynghylch y cyhoeddiad heddiw gan gwmni dur Tata.

Mewn cyfarfod o Fwrdd Gweithredol CLlLC, sy’n cynnwys pob un o’r 22 o gynghorau Cymru, siaradodd arweinwyr am eu pryder ynghylch y newyddion “dinistriol” i gymunedau a’r rhanbarth.

 

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart (Abertawe), Llefarydd CLlLC dros yr Economi:

“Mae’r cyhoeddiad heddiw gan gwmni dur Tata yn ergyd ysgytwol yn nhermau’r effeithiau llym ar economi Cymru, ac ar gapasiti’r DU i gynhyrchu dur. Mae CLlLC yn glir nad yw llywodraeth leol yn cefnogi’r datblygiad yma.”

“Mae’r gwaith dur yn ddiwydiant sofran a bydd cynlluniau Tata yn gadael y DU fel yr unig genedl G20 heb y gallu i greu ei dur ei hun. Tra’r ydyn ni’n cefnogi symud i ffwrneisi modern fel proses ychwanegol i alluogi ailgylchu ac atgynhyrchu dur, dylai hynny eistedd ochr-yn-ochr gallu’r DU i greu dur cynhenid. Fel arall, fel sydd wedi ei brofi dros yr argyfwng ynni, bydd y DU ar drugaredd marchnadoedd a chyflenwad rhyngwladol.

“Ni fydd hyn chwaith yn helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd chwaith, gan y bydd y broses o greu dur mewn ffwrneisi chwyth yn dal i gymryd lle ond mewn ffordd llai cynaliadwy yn amgylcheddol mewn rhannau eraill o’r byd.

“Yn syml iawn, byddai cynlluniau arfaethedig Tata yn ergyd ddinistriol yn lleol ac yn genedlaethol. Byddai’n golygu colli 2,800 o swyddi gydag effaith gwerth £500m i economi Cymru o ran colli swyddi yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol.

“Rydyn ni’n gal war Lywodraeth y DU a Tata i barhau trafodaethau gyda’r Undebau a, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, i amddiffyn y diwydiant gwneud dur ym Mhort Talbot ac yn y DU. Rhaid canfod ffordd amgen i bontio tuag at greu dur glanach, sydd yn amddiffyn swyddi ac economi Cymru, ynghyd â chadw isadeiledd cenedlaethol a gallu’r DU i greu dur.”

- DIWEDD -

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30