Roedd Heddlu Gwent yn cael nifer o broblemau gyda phobl ifanc nad oedd yn dilyn rheolau’r cyfnod clo ac fe wnaethant gysylltu â Gwasanaethau Ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i’w cynorthwyo i ymgysylltu â phobl ifanc. Cytunwyd y byddai’r heddlu a staff ieuenctid estyn allan y Cyngor yn cyflawni patrolau ar y cyd er mwyn siarad â phobl ifanc am ragofalon diogelwch COVID-19. Roedd hyn hefyd yn galluogi gwasanaethau ieuenctid a’r heddlu i wirio eu lles a darparu cymorth ychwanegol os oedd angen. Mae staff y Gwasanaeth Ieuenctid wedi bod allan gyda'r heddlu 2-3 gwaith yr wythnos, gan weithio gyda thimoedd plismona cymdogaethau ar draws y fwrdeistref. Roedd y patrolau yn canolbwyntio ar ardaloedd lle ganfuwyd ymddygiad gwrthgymdeithasol neu lle roedd grwpiau o bobl ifanc wedi cael eu gweld. Roedd rhai anawsterau ar y dechrau, gan nad oedd rhai pobl ifanc yn awyddus i siarad gyda'r heddlu, ond goresgynnwyd hyn gan fod y gweithiwr ieuenctid gyda nhw ac yn annog y bobl ifanc i ymgysylltu. Mae lefel ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi lleihau ar draws y fwrdeistref, ac mae llai o bobl ifanc i’w gweld, sydd wedi arwain at leihau’r gefnogaeth oedd ei angen gan yr heddlu.
“Gwaith partneriaeth gwych...cefnogi pobl ifanc yn ystod y cyfnod hwn...rhaid i ni fod yn rhagweithiol...nid aros i’r broblem gael ei chodi...bydd bod yn weledol yn darparu sicrwydd ac yn annog pobl ifanc i ymgysylltu â ni...” Prif Gwnstabl Pam Kelly, Heddlu Gwent @GP_PamKelly