Ym Mhen-y-bont ar Ogwr mae ymdrech sylweddol wedi ei wneud i sicrhau fod gan ofalwyr y gefnogaeth maent ei angen yn ystod y pandemig.
Fe ddarparodd Gwasanaeth Lles Gofalwyr y Cyngor linell gymorth 24 awr i gefnogi gofalwyr yn ystod y cyfnod clo. Derbyniodd y gwasanaeth lefel uchel o alwadau a phrofodd i fod yn wasanaeth gwerthfawr i ofalwyr yn ystod y cyfnod heriol hwn.
Mae gwasanaethau gofalwyr y cyngor wedi datblygu/cyflwyno ystod o ffyrdd i gyfathrebu gyda gofalwyr yn ystod y pandemig, gan gynnwys posteri a gwybodaeth, galwadau ffôn uniongyrchol i wirio lles gofalwyr, negeseuon ebost rheolaidd, defnyddio technoleg fideo fel zoom a defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol. Hefyd mae gwasanaethau fel sesiynau cwnsela a chyngor wedi eu darparu dros y ffôn i gefnogi gofalwyr.
Mae trefniadau wedi eu gwneud i ofalwyr ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr i dderbyn Cyfarpar Diogelu Personol yn unol â'r canllawiau cenedlaethol.