Mae pawb ar draws llywodraeth leol Cymru wedi eu dychryn o weld y dinistr sy’n datblygu yn Wcráin. Heddiw, cyfarfu Arweinwyr Grwpiau CLlLC i drafod yr argyfwng dyngarol cynyddol yn y wlad. Dros y penwythnos ysgrifennodd Arweinydd CLlLC, Andrew Morgan at y Prif Weinidog, Boris Johnson am y gwrthdaro, a heddiw mae wedi ailadrodd yr alwad ar Lywodraeth y DU i roi mwy o eglurder a gweithredu ar frys wrth ymateb i argyfwng y ffoaduriaid.
Cadarnhaodd yr arweinwyr fod Llywodraeth Leol yng Nghymru yn barod i wneud popeth o fewn eu gallu i helpu'r rhai sy'n dianc rhag y gwrthdaro yn Wcráin ac yn gwneud paratoadau. Yn eu llythyr at y Prif Weinidog, galwodd yr holl Arweinwyr a'r Llywydd am ddileu'r cynllun fisa cyfyngol a biwrocrataidd presennol er mwyn galluogi'r bobl hynny sy'n ceisio dianc rhag y rhyfel yn Wcráin i ddod i Gymru a dod o hyd i le diogel cyn gynted â phosibl. Mae'r arweinwyr wedi gofyn am gyfarfod brys gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru i drafod y mater.
Mae angen mwy o fanylion am y llwybrau i'r DU ar frys hefyd er mwyn i ni allu gwneud cynnydd o ran cefnogi ffoaduriaid i gyrraedd y DU, y mwyafrif ohonynt yn fenywod, plant a phobl eraill sy'n agored i niwed.
Mae rhagor o wybodaeth ar ein gwefan: Wcráin - Gwybodaeth a Chymorth - CLILC
A gwefan Llywodraeth Cymru: Wcráin: cefnogaeth i bobl a effeithir | LLYW.CYMRU