Heddiw caiff Wythnos Ymwybyddiaeth Cymunedau Mwy Diogel gyntaf Cymru ei lansio (18 – 22 Medi 2023), a drefnwyd gan Rwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru. Mae’r Wythnos Ymwybyddiaeth yn gyfle i godi proffil gwaith diogelwch cymunedol ac amlygu’r gwaith arloesol sy’n digwydd ledled Cymru.
Ar ddiwrnod cyntaf yr Wythnos Ymwybyddiaeth, mae’r Rhwydwaith wedi rhyddhau ffilm gyda Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru, i dynnu sylw at bwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth i hyrwyddo cymunedau diogel, cryf a hyderus, a sut mae’r Rhwydwaith yn amhrisiadwy i gyflawni hyn.
Yn ogystal, bydd yr Wythnos Ymwybyddiaeth yn cynnwys nifer o sesiynau Sgwrs Coffi a Chinio a Dysgu ar-lein yn tynnu sylw at bynciau amrywiol o fewn diogelwch cymunedol, gan gynnwys trais yn erbyn menywod a merched, diogelu, ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Bydd y sesiynau’n cael eu harwain gan bartneriaid amrywiol y Rhwydwaith a byddant yn gyfle i arddangos yr arfer da sy’n digwydd ledled Cymru.
Nid yw'n rhy hwyr i gofrestru i fynychu'r sesiynau a rhannu negeseuon yr Wythnos Ymwybyddiaeth yn eich ardal leol. Dysgwch fwy am sut y gallwch chi a'ch sefydliad gymryd rhan yma.
I gael rhagor o wybodaeth am y Rhwydwaith, ewch i www.cymunedaumwydiogel.cymru a dilynwch @CymMwyDiogel ar Trydar i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd Cyngor Casnewydd, Cyd-Gadeirydd Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel Cymru, a Llefarydd CLlLC dros Gyfiawnder Cymdeithasol:
“Rwy’n falch iawn o gefnogi lansiad Wythnos Ymwybyddiaeth Cymunedau Mwy Diogel gyntaf Cymru. Bydd yr wythnos hon yn gyfle gwych i ddysgu am a dyrchafu’r gwaith ffantastig sy’n digwydd ym maes Diogelwch Cymunedol ledled Cymru, wrth i ni glywed gan nifer o bartneriaid Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru.”
Dywedodd Roger Thomas, Prif Swyddog Tân, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, ac Uwch Swyddog Cyfrifol Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru:
“Mae'r Wythnos Ymwybyddiaeth Cymunedau Mwy Diogel 2023 yn gyfle unigryw i ehangu cydweithrediad o fewn Diogelwch Cymunedol yng Nghymru, gan ddod ag unigolion o’r un anian a rhanddeiliaid sydd â diddordeb cyffredin at ei gilydd i gydweithio tuag at yr un nod o gyflawni cymunedau mwy diogel ledled Cymru. Ni allwn ddatrys y materion hyn fel sefydliadau unigol ac mae dyfodol Diogelwch Cymunedol llwyddiannus yn dibynnu ar gydweithio.”
Dywedodd Mark Brace, Pennaeth Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru:
“Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous i Rwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru ac mae’n dangos ein gallu i ymgysylltu â sefydliadau lluosog ar draws amrywiaeth o bynciau Diogelwch Cymunedol. Mae hyn yn rhan o’n cefnogaeth barhaus i gydweithwyr sy’n gweithio ym maes Diogelwch Cymunedol ac mae’n amlygu ein gwerth wrth gefnogi gweithio mewn partneriaeth ledled Cymru.”
- DIWEDD -