Data newydd yn dangos gwir faint problem y tomennydd glo wrth i'r Prif Weinidog apelio am gyllid newydd

Dydd Llun, 25 Hydref 2021

Mae data newydd sy'n dangos gwir faint problem tomennydd glo Cymru wedi'u cyhoeddi heddiw wrth i Brif Weinidog Cymru wneud apêl newydd i Lywodraeth y DU fuddsoddi i ddiogelu tomennydd glo a 'helpu cymunedau sydd eisoes wedi rhoi cymaint'.

Am y tro cyntaf erioed, mae Llywodraeth Cymru wedi gallu rhoi dadansoddiad o'r 2,456 o’r tomennydd glo sydd yng Nghymru, a’u rhannu yn ôl categori risg ac awdurdod lleol.

Cyhoeddwyd y data newydd mewn datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, yn gynharach yn y mis lle cadarnhaodd fod Llywodraeth Cymru wedi casglu'r data a'u rhannu gydag awdurdodau lleol a Fforymau Cydnerthedd Lleol i’w helpu i baratoi at argyfyngau.

Mae'r data'n dangos mai Castell-nedd Port Talbot sydd â'r nifer fwyaf o safleoedd gyda 607 ond mai Rhondda Cynon Taf sydd â’r nifer fwyaf o rai risg uwch, sef 75.

Mae safleoedd risg uwch yn dod o dan gategorïau C a D ac felly â’r potensial i beri risg yn hytrach na bod bygythiad byw sydd ar fin digwydd – mae'n golygu bod angen cynnal archwiliadau’n amlach.

Cyhoeddwyd yr wybodaeth cyn cynnal yr Uwchgynhadledd ar Ddiogelwch Tomennydd Glo y prynhawn yma, sy'n cyfarfod am y pedwerydd tro. Trafodir gwaith y Tasglu Diogelwch Tomennydd Glo, gan gynnwys mapio data, gwaith cynnal a chadw ac archwilio.

Bydd cyllid ar gyfer adfer tomennydd glo yn y tymor hir hefyd yn cael ei drafod yn yr uwchgynhadledd. Amcangyfrifir y bydd y gwaith o addasu, sefydlogi ac adfer hen domennydd glo i ddelio â gwaddol y diwydiant glo cyn datganoli yn costio o leiaf £500m i £600m dros y degawd a hanner nesaf. Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio'r angen bod buddsoddi’r rhan fwyaf o’r arian hwn yn y blynyddoedd nesaf, wrth i'r glaw ddwysáu a'r tymheredd gynyddu oherwydd y newid yn yr hinsawdd.

 

Dywedodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru:

Rydym yn cydnabod bod byw yng nghysgod tomen lo yn destun pryder i gymunedau ac rydym am sicrhau trigolion lleol bod llawer o waith yn cael ei wneud i’w gwneud yn ddiogel.

Mae trefn archwilio a chynnal a chadw ar waith, gydag archwiliadau gaeaf eisoes wedi cychwyn yn y tomennydd uwch eu risg. Rydym hefyd yn treialu technoleg i ddeall yn well symudiad y tir ar safleoedd risg uwch. Ond rydym yn gwybod y bydd y risgiau'n cynyddu wrth i’r hinsawdd newid ac mae’n hanfodol cael hyd i ateb tymor hir.

Mae’r safleoedd hyn yn dyddio o'r cyfnod cyn datganoli. Nid yw ein setliad ariannu yn cydnabod costau sylweddol, hirdymor adfer a thrwsio’r safleoedd. Mae’r Adolygiad Gwariant yfory yn gyfle i Lywodraeth y DU ddefnyddio ei phwerau ariannol i helpu cymunedau sydd wedi rhoi cymaint i Gymru a'r Deyrnas Unedig yn y blynyddoedd glofaol. Bydd pecyn buddsoddi i adfer y safleoedd hyn yn dangos sut y gall ein dwy lywodraeth gydweithio er lles y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

 

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf), Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru:

Mae gwaith yn cael ei gynnal yn rheolaidd i fonitro ac arolygu’r tomennydd glo i gadw llygad ar unrhyw risg o symudiad neu risg arall. Ond mae'r data hyn yn dangos bod angen buddsoddiad hirdymor sylweddol os ydyn ni am wneud yn siŵr bod gwaith atgyweirio angenrheidiol yn cael ei wneud – a hynny er mwyn inni sicrhau diogelwch y safleoedd hyn ledled Cymru.

Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cymryd y mater hwn o ddifrif a’u bod wedi sefydlu Tasglu Diogelwch Tomennydd Glo i fapio'r gwaith sydd ei angen ar y cyd. Fodd bynnag, er gwaethaf llythyr trawsbleidiol ar y cyd a gymeradwywyd gan bob un o'r 22 o arweinwyr y cynghorau yng Nghymru yn gofyn am gyllid gan Lywodraeth y DU, mae'n siomedig bod Llywodraeth y DU - er rhoi rhywfaint o gymorth ariannol ar y cychwyn - wedi gwrthod ymrwymo hyd yma i raglen ariannu barhaus. Bydd angen rhaglen ariannu sefydlog i ddelio â'r mater etifeddol hwn sy'n dyddio’n ôl i gyfnod cyn datganoli. Mae'r Adolygiad o Wariant yn rhoi cyfle i Lywodraeth y DU roi rhywfaint o sicrwydd y mae mawr ei angen ar gymunedau sy'n dal i fyw dan gysgod eu hetifeddiaeth ddiwydiannol. Drwy gydweithio â phartneriaid, gan gynnwys Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol, ac o sicrhau buddsoddiad hirdymor, gallwn helpu i sicrhau ein bod yn diogelu'r safleoedd hyn rhag risgiau newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol, gan atal trychinebau’r gorffennol rhag digwydd eto.

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 029 2046 8600
E-bost : enquiry@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30