CLILC

 

Panel Strategaeth Datgarboneiddio Llywodraeth Leol

Mae Panel Strategaeth Datgarboneiddio Llywodraeth Leol wedi’i sefydlu i helpu i arwain, cefnogi a rhoi trosolwg strategol i waith Datgarboneiddio mewn llywodraeth leol. Gan gydweithio, bydd y Panel yn rhannu arbenigedd, tystiolaeth a datrysiadau i sicrhau bod buddsoddiad, strategaeth a pholisi mor effeithiol ag sy’n bosibl.

 

Cyfarfu’r Panel dros y we am y tro cyntaf yn ystod Wythnos yr Hinsawdd Cymru (2-6 Tachwedd 2020), ac maen parhau i cwrdd misol. Mae’r Panel yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu polisïau uchelgeisiol ar gyfer Cynllun Cyflawni Carbon Isel nesaf Cymru ar sail y meysydd blaenoriaeth i’r sector cyhoeddus – caffael, adeiladau, trafnidiaeth a defnydd tir. Mae disgwyl i’r Cynllun cael eu cyhoeddi yn ystod yr hydref 2021.   

 

Gan gydnabod bod llawer o waith sy’n mynd rhagddo eisoes, nad bwriad y Panel oedd efelychu grwpiau a gweithgareddau sy’n bodoli eisoes, ond yn hytrach symbylu a chyflymu newid er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Yr angen i gydweithio ydy nod allweddol i’r Panel, fel bod modd i awdurdodau rannu arfer da a gwersi a ddysgwyd, yn ogystal â chydweithredu er mwyn lleihau galw ar adnoddau.

 

Mae llywodraeth leol mewn sefyllfa unigryw i arwain trwy esiampl a chynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o raddfa a chyflymder newid sydd ei angen i cyrraedd y targed uchelgeisiol at ddod yn sero net erbyn 2030.

 

Pwy yw aelodau’r Panel?

Mae’r Panel yn cynnwys cynrychiolwyr o awdurdodau lleol ar draws Cymru sy’n cynrychioli eu rhanbarth, aelodau Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac ochr yr undebau llafur ynghyd ag arbenigwyr technegol. Er nad yw’r aelodaeth wedi’i chadarnhau eto, mae’r aelodau sydd wedi’u cadarnhau hyd yma wedi’u rhestru isod:

Rhanbarth maen nhw’n ei chynrychioli Enw Sefydliad
Cymru Gyfan Tim Peppin (Cadeirydd) Cyfarwyddwr Adfywio a Datblygu Cynaliadwy - CLlLC
Gogledd Cymru Iwan Davies Prif Weithdredwr - Cyngor Bwrdeistreff Sirol Conwy
Gogledd Cymru Helen Vaughan-Evans Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd - Cyngor Sir Ddinbych
Gogledd Cymru Iolo McGregor Cynllunio Strategol - Cyngor Sir Ddinbych
Canolbarth Cymru Caroline Turner Prif Weithredwr - Cyngor Sir Powys
De Orllewin Cymru Wendy Walters Prif Weithredwr - Cyngor Sir Gaerfyrddin
De Ddwyrain Cymru Richard Crook Cyfarwyddwr yr Amgylchedd - Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
De Ddwyrain Cymru Chris Bradshaw Prif Weithdredwr - Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
De Ddwyrain Cymru Rachel Jowitt Cyfarwyddwr yr Amgylchedd - Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
De Ddwyrain Cymru Joanna Haycock Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Cymru Gyfan Tegryn Jones Parciau Cenedlaethol
Cymru Gyfan Clive Walmsley Cyfoeth Naturiol Cymru
Cymru Gyfan Yr Athro Carly McLachlan Manchester Cardiff University Centre for Climate & Social Transformations
Cymru Gyfan John Howells Cyfarwyddwr Newid Hinsawdd, Ynni a Chynllunio - Llywodraeth Cymru
Cymru Gyfan Reg Kilpatrick Cyfarwyddwr Llywodraeth Leol - Llywodraeth Cymru
Cymru Gyfan Nicola Savage GMB

Sefydlwyd Panel y Strategaeth Datgarboneiddio yn dilyn datganiad ar y cyd a gyhoeddwyd gan Gyngor Partneriaeth Cymru i sicrhau bod uchelgais Cymru i’r sector cyhoeddus gyflawni carbon sero net erbyn 2030 yn flaenllaw o ran gwneud penderfyniadau ac adferiad ar ôl Covid.


Dolen:


Mae rhagor o wybodaeth gan: Tim Peppin

https://www.wlga.cymru/local-government-decarbonisation-strategy-panel-