Ar ddydd Iau 30 Tachwedd, fe wnaeth CLlLC gefnogi a chyfrannu at gynllunio a chydlynu ail Gynhadledd Atal Digartrefedd Pobl Ifanc yn Llandrindod ar y cyd ag End Youth Homelessness Cymru.
Daeth cynrychiolwyr o bob rhan o wasanaethau llywodraeth leol, megis addysg, tai, a gwasanaethau cymdeithasol yn ogystal â’r sector gwirfoddol at ei gilydd yn y gynhadledd i drafod nifer o bynciau cysylltiedig pwysig gan gynnwys canllawiau newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer adnabod yn gynnar pobl ifanc mewn perygl sydd ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant) a rôl Gwaith Ieuenctid yn ymgynghoriad presennol Llywodraeth Cymru ar ddod â digartrefedd i ben yng Nghymru.
Dywedodd y Cynghorydd Andrea Lewis, Llefarydd WLGA dros Dai:
“Rwy’n falch iawn bod WLGA wedi cefnogi’r digwyddiad hwn. Roedd y gynhadledd yn llwyddiant mawr a rhoddodd lwyfan gwerthfawr i lywodraeth leol a phartneriaid gymryd rhan mewn trafodaethau ystyrlon ar faterion tai dybryd.
“Mae nifer yr unigolion sy’n ceisio cymorth tai gan gynghorau lleol a’r niferoedd digynsail mewn llety dros dro brys yn tanlinellu’r heriau tai brys y mae ein cymunedau’n eu hwynebu.
“Er gwaethaf y cyfyngiadau ariannol cyffredinol, na wnaeth Datganiad yr Hydref diweddar Llywodraeth y DU fawr ddim i fynd i’r afael â nhw, rydym yn croesawu bod Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu’r frwydr yn erbyn digartrefedd.
“Mae WLGA yn parhau i fod yn ymrwymedig i gydweithio â’r Llywodraeth i sicrhau bod cymorth ac atebion digonol yn eu lle i fynd i’r afael â’r heriau tai a digartrefedd sy’n wynebu ein cymunedau.”
DIWEDD –