“Dewn at ein gilydd i nodi carreg filltir Diwrnod VE trwy aros ar wahan”

Dydd Iau, 07 Mai 2020

Mae cynghorau yn annog unrhyw un sy’n dymuno coffau 75 mlwyddiant Diwrnod VE y penwythnos yma ond i wneud hynny gartref, a gan lynnu at ganllawiau ymbellhau cymdeithasol.

Noda Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop (VE) y dydd pan y daeth y brwdro yn erbyn yr Almaen i ben yn 1945. Mae’r gŵyl y banc traddodiadol yn digwydd wythnos yn hwyrach eleni ar yr 8fed o Fai er mwyn cyd-daro â’r diwrnod hanesyddol.

Canslwyd nifer o weithgareddau i nodi’r foment o ganlyniad i fesurau’r llywodraeth. Ond mae cynlluniau amgen, gan gynnwys ystod o raglenni gan y BBC a digwyddiadau gan y Lleng Brydeinig Frenhinol, wedi eu trefnu i gynnig ystod o gyfleon i unrhyw un sy’n dymuno nodi’r garreg filltir ingol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf), Arweinydd CLlLC:

“Cawn gyfle y penwythnos yma i ddangos parch i’r rhai hynny a aberthodd cyn gymaint. Ond i anrhydeddu arwyr Diwrnod VE, rhaid i ni amddiffyn arwyr heddiw gan aros gartref.

“Mae llu o gyfleon ar gael i nodi’r diwrnod tra’n cydymffurfio â chanllawiau iechyd cyhoeddus y llywodraeth. Dyma gyfle i Gymru ddod at ei gilydd tra’n aros ar wahan.”

“Er bod y cynlluniau wedi newid mae ein dymuniad i anrhydeddu’r aberth a wnaed yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac i goffau diwedd brwydro yn Ewrop, yn aros.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance (Powys), Llefarydd CLlLC dros Ddiogelwch Cymunedol:

“Daeth ein cenedl ynghyd 75 mlynedd yn ôl i nodi diwedd y Rhyfel yn Ewrop ac i gydnabod gwasanaeth llu o bobl, dramor ac ar y Ffrynt Cartref. Ar yr achlysur yma, gallwn gymryd saib i gofio am yr holl bobl o bob cefndir a wnaeth yr aberth eithaf.”

-DIWEDD-

 

Bydd digwyddiadau coffa ar draws y DU yn cynnwys:

  • Cychwyn ar y coffau am 11am, gyda dwy funud o dawelwch i gofio.
  • Ail ddarllediad araith Syr Winston Churchill o 1945 am 3pm ar y BBC fel rhan o raglenni arbennig ar y diwrnod.
  • Y Frenhines i annerch y genedl ar y BBC am 9pm – yr un pryd ac y bu i’w thad, Brenin Sior VI, wneud anerchiad ar y radio yn 1945.
  • I’w ddilyn gan y genedl yn cydganu cân eiconig Vera Lynn o’r cyfnod, “We’ll Meet Again”.

 

 

 

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30