CLILC

 

Rhaglen Arwain i Gynghorwyr

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn gweithio mewn partneriaeth ag Academi Wales a Llywodraeth Cymru i gyflwyno’r Rhaglen Arwain i Gynghorwyr yng Nghymru.

 

Diben y rhaglen hon yw galluogi arweinyddion a chynghorwyr eraill sy’n ymwneud ag arwain i ystyried y syniadau diweddaraf ym maes arweiniad gwleidyddol a meithrin yr wybodaeth a’r medrau angenrheidiol i ateb heriau.

 

Un o gryfderau’r rhaglen yw ei bod yn rhoi cyfle i gynghorwyr o bob plaid wleidyddol gwrdd â’u cyfatebion o gynghorau a phleidiau eraill a thrafod materion sy’n gyffredin iddyn nhw.

 

Mae’r cyfuniad hwnnw o ddysgu gan arbenigwyr ym maes arwain a thrwy profiad cyfoeswyr yn rhoi i’r cynghorwyr hyder yn eu galluoedd a rhwydwaith newydd o bobl y gallan nhw ymddiried ynddynt.


Amserlen

 

Mae'r rhaglenni'n drawsbleidiol ac wedi'u cyfyngu i 25 o gynghorwyr mewn unrhyw un sesiwn er mwyn sicrhau'r cyfranogiad mwyaf posibl.

Rhaglen 1 Gogledd Cymru (penwythnosau)

Modiwl 1: 23 i 24 Medi 2023

Modiwl 2: 28 Hydref a 30 Hydref 2023

Modiwl 3: 18 i 19 Tachwedd 2023

 

Rhaglen 2 De Cymru (yn ystod yr wythnos)

Modiwl 1: 17 i 15 Ionawr 2024

Modiwl 2: 21 Chwefror a 23 Chwefror 2024

Modiwl 3: 13 i 14 Mawrth 2024


Mae rhagor o wybodaeth gan: Ann-Marie McCafferty

annmarie.mccafferty@wlga.gov.uk

 

https://www.wlga.cymru/leadership-programme-for-councillors