Dyddiad Cau: Dydd Sul 31 Mawrth 2024
Dyddiad Cyfweliad: Dydd Llun 15 Ebrill 2024
Cyflog: Gradd 4 (SCP 30 – 35) £38,223 - £43,421 Yn amodol ar Werthuso Swyddi
Tymor: Llawn Amser Parhaol
Swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol: Ydi
Cymraeg yn hanfodol: Nac Ydi
Ynglŷn â’r Swydd
Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru: Bydd y swydd hon yn gweithio o fewn Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru. Nod y Rhwydwaith yw dod yn llais strategol dros ddiogelwch cymunedol yng Nghymru, drwy gydweithio gyda’i aelodau i hyrwyddo a chefnogi partneriaethau diogelwch cymunedol a dylanwadu ar lunio a datblygu polisi cenedlaethol a darpariaeth leol. Mae’r Rhwydwaith yn derbyn llety gan CLlLC.
Bydd deiliad y swydd hon yn gyfrifol am holl anghenion cyfathrebu ac ymgysylltu mewnol ac allanol Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru ac yn gyfrifol am greu a darparu cynnwys llawn gwybodaeth ar draws sawl llwyfan yn cynnwys adnoddau ar-lein, y cyfryngau cymdeithasol, newyddlenni, podlediadau a digwyddiadau Rhwydwaith. Byddwch hefyd yn gyfrifol am weithio gyda thîm y Rhwydwaith, ymarferwyr, partneriaid a budd-ddeiliaid i ddatblygu a chydlynu gweithgarwch y Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru drwy ddarparu ymgysylltiad o safon uchel â budd-ddeiliaid, cynnal cyfathrebu effeithiol a threfnu digwyddiadau a gweithgareddau yn cynnwys hyfforddiant, cynadleddau a gweminarau.
Gwnewch gais Rŵan!
I gael sgwrs gychwynnol ynglŷn â’r swydd a’r sefydliad, cysylltwch â Mark Brace, Pennaeth Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru ar 07906362348.
I wneud cais, anfonwch lythyr eglurhaol gyda ffurflen gais wedi'i chwblhau erbyn y dyddiad cau, Dydd Sul 31 Mawrth 2024 i: recruitment@wlga.gov.uk
Gwahoddir ymgeiswyr ar y rhestr fer i gyfweld panel dethol drwy Microsoft Teams ar Dydd Llun 15 Ebrill 2024.
Efallai y bydd gofyn i ymgeiswyr ar y rhestr fer gwblhau tasg cyn bod yn bresennol yn y cyfarfod, yn ogystal â thasgau cyn cyfweliad ar y diwrnod, wedi’i ddilyn gan gyfweliad gyda phanel dethol.
Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o hunaniaeth a chymhwysedd i weithio yn y DU.