Y Cynghorydd Andrew Morgan OBE (Rhondda Cynon Taf), Arweinydd CLlLC:
"Gyda chalon drom y bu i ni ddysgu am farwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II. Bydd ei cholled yn cael ei deimlo gan y nifer o achosion iddi gyffwrdd â nhw dros 70 mlynedd o wasanaeth teyrngar.
"Bydd y Frenhines Elizabeth yn cael ei chofio yn yn o ffigyrau amlycaf hanes modern byd-eang. Ond bu llu o bobl yng Nghymru yn cofio’n gynnes ei sicrwydd cyson i gymunedau lleool di-ri mewn amseroedd da ac anodd.
"Ar ran llywodraeth leol yng Nghymru, rwy’n estyn ein cydeimlad dwysaf i Ei Mawrhydi y Brenin a’r Teulu Brenhinol yn eu galar."