Clywodd Ymchwiliad Covid‑19 y DU ddoe fod cynghorau Cymru wedi gweithredu fel “rheng flaen gudd” y wlad drwy gydol y pandemig, yn camu i'r adwy i ddiogelu’r rhai mwyaf bregus, sicrhau llety brys i bobl oedd yn profi digartrefedd, ac ati i gynnal gwasanaethau hanfodol i gymunedau o dan bwysau digynsail.
Mae Modiwl 10 yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar effeithiau cymdeithasol Covid-19, gan archwilio’r pwysau a wynebwyd gan staff rheng flaen, grwpiau agored i niwed, gwasanaethau tai a digartrefedd, darpariaeth profedigaeth, a gweithgareddau hamdden a diwylliannol ar lefel gymunedol. Roedd cynghorau yng Nghymru yn ganolog wrth ymateb i’r heriau hyn, gan ddarparu gwasanaethau hanfodol a llety brys.
Yn ei dystiolaeth i’r Ymchwiliad, tynnodd Dr Llewelyn sylw at ymroddiad staff llywodraeth leol, gan ddweud eu bod wedi gweithio oriau hir, parhaus, yn wynebu risg uwch o gael eu heintio, a pwysau iechyd meddwl sylweddol. Mae cynghorau wedi ail-leoli staff, gweithredu mesurau diogelwch, a darparu cyfarpar diogelu personol, cymorth lles, a threfniadau gweithio hyblyg.
Dywedodd Dr Llewelyn fod awdurdodau lleol yn adnabod eu trefi, eu cymunedau a’u busnesau’n dda, a bod hynny’n golygu y gallent dargedu cymorth yn gywir. Roedd cyllid gan Lywodraeth Cymru, gyda phrosesau wedi’u cynllunio ar y cyd â llywodraeth leol, yn golygu bod cynghorau’n gallu darparu cymorth ariannol i fusnesau yn gyflym.
Mae’r dystiolaeth hefyd yn pwysleisio sut roedd awdurdodau lleol yn amddiffyn preswylwyr agored i niwed, gan gynnwys y rhai sy’n profi caledi ariannol, allgáu digidol neu ynysu cymdeithasol. Ehangwyd gwasanaethau tai a digartrefedd o dan y strategaeth “Neb ar Ôl”, gyda gwestai a chyfleusterau eraill wedi’u hail-bwrpasu i ddarparu llety brys. Addaswyd gwasanaethau profedigaeth gydag angladdau wedi’u ffrydio’n fyw, seremonïau awyr agored, a grwpiau cymorth rhithwir i gynorthwyo teuluoedd sy’n galaru.
Cynhaliwyd gwasanaethau cymunedol a chyfleusterau hamdden lle roedd hynny’n bosibl, gyda dosbarthiadau ffitrwydd rhithwir, adnoddau llyfrgell ac amgueddfa ar-lein, a chefnogaeth barhaus i fudiadau gwirfoddol sy’n helpu i gynnal cysylltiad cymdeithasol a lles yn ystod y cyfyngiadau symud.
Dywedodd Cadeirydd yr Ymchwiliad, y Farwnes Hallett, wrth grynhoi sesiwn dystiolaeth y diwrnod, ei bod yn gobeithio bod y broses Ymchwilio wedi helpu i daflu goleuni ar weithlu llywodraeth leol, ac fe dalodd deyrnged i’w heffaith ac i’w cyfraniadau ar y cyd yn ystod y pandemig.
Dywedodd Dr Chris Llewelyn, Prif Weithredwr CLlLC:
“Rhoddodd Covid-19 bwysau digynsail ar lywodraeth leol, ein gweithlu, a’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Roedd gweithwyr allweddol yn wynebu oriau hir, risg i’w hiechyd eu hunain, a straen emosiynol, ond fe wnaethant ymateb gyda phroffesiynoldeb ac ymroddiad diwyro.
“Gweithiodd cynghorau yng Nghymru yn ddiflino i gefnogi preswylwyr sy’n agored i niwed, darparu tai brys, addasu gwasanaethau profedigaeth, a chynnal gwasanaethau cymunedol a chyfleoedd hamdden. Dangosodd ein gweithlu wydnwch rhyfeddol, ac roedd y bartneriaeth rhwng cynghorau, Llywodraeth Cymru, a phartneriaid cymdeithasol yn hanfodol wrth ddarparu cymorth amserol, wedi’i dargedu.
" Roedd eu dealltwriaeth gadarn o’u cymunedau, ynghyd â phartneriaeth agos â Llywodraeth Cymru, yn golygu bod cymorth yn cyrraedd busnesau a thrigolion yn gyflym pan oedd ei angen fwyaf. Ni fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl heb ymroddiad ein gweithlu a’r ymddiriedaeth a feithrinwyd drwy ein trefniadau partneriaeth.
“Wrth i ni fyfyrio ar y dystiolaeth a gyflwynwyd i Ymchwiliad Covid-19 y DU, mae ein ffocws ar yr hyn a ddysgwyd gennym, sut y gallwn wella gwasanaethau cyhoeddus, a sicrhau bod cynllunio argyfwng yn y dyfodol yn adlewyrchu gwersi’r pandemig. Yn anad dim, rydyn ni’n cofio’r rhai a gollodd eu bywydau a’r teuluoedd sy’n parhau i fyw gyda’r golled honno.”