Diwrnod Hawliau Gofalwyr: CLlLC yn diolch i ofalwyr mewn blwyddyn heriol tu hwnt

Dydd Iau, 26 Tachwedd 2020

​Yn nodi Diwrnod Hawliau Gofalwyr heddiw, dywedodd y Cynghorydd Huw David (Pen-y-bont ar Ogwr), Llefarydd CLlLC dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Ni fyddai ein system gofal yn gallu goroesi heb gyfraniad gofalwyr di-dal, sydd yn darparu cefnogaeth hollbwysig i bobl bob dydd. Ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr heddiw, hoffwn ddweud diolch enfawr ar ran bawb o fewn llywodraeth leol i’r holl ofalwyr yng Nghymru am y gofal a’r gefnogaeth mae nhw’n ei roi i’w hanwyliaid yn ddyddiol.”

“Er bod rôl gofalwyr di-dal wastad wedi bod yn un annatod, ond mae’r argyfwng COVID wedi amlygu hynny hyd yn oed yn fwy. Ceir dystiolaeth pellach yn yr adroddiad heddiw o rôl hanfodol gofalwyr di-dal a’r cyfraniad aruthrol mae nhw’n ei wneud. Y gwirionedd yw y byddai annibyniaeth a safon bywyd llawer o bobl yn cael ei gyfaddawdu heb ofalwyr, a bydd y baich ar ein gwasanaethau cymdeithasol a’r GIG yn chwyddo’n fwy. Does dim llawer o swyddi neu rolau sydd yn fwy pwysig.”

“Mae llywodraeth leol yn deall hyn yn llwyr a, thrwy weithio gyda’n gilydd gyda sefydliadau partner yn cynnwys iechyd a Llywodraeth Cymru, mae angen i ni sicrhau ein bod ni’n adnabod y cyfleon a’r cyllid ar gyfer llywodraeth leol i’n galluogi ni i wneud yn siwr bod gofalwyr yn derbyn y gydnabyddiaeth a’r gefnogaeth y mae nhw’n ei haeddu.”

-DIWEDD-

 

NODIADAU I OLYGYDDION:

Mwy o wybodaeth am yr ymchwil gan Gofalwyr Cymru ar gael yma

 

 

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30