"Byddwch yn wyliadwrus rhag dwyllwyr Coronavirus"

Dydd Sadwrn, 18 Ebrill 2020

Mae cynghorau Cymru yn rhybuddio trigolion i fod yn wyliadwrus ymysg cynnydd mewn sgamiau yn gysylltiedig â COVID-19.

Pobl hŷn a phobl fregus sy’n hunan-ynysu sy’n cael eu hystyried â’r mwyaf o risg o gael eu targedu gan dwyllwyr yn honni i gynnig help neu gefnogaeth. Mae rhai trigolion wedi cael eu targedu ar garreg y drws gan gynigion ffug i helpu gyda siopa bwyd, tra bod adroddiadau hefyd o gynllwyniau mwy cymhleth gan gynnwys:

  • Cwmniau yn cynnig ad-daliadau gwyliau ffug i bobl sydd wedi gorfod canslo eu tripiau
  • Sgamiau ebost sy’n twyllo pobl i agor atodiadau ebost maleisus, sy’n rhoi pobl mewn perygl o ladrad hunaniaeth, gan gynnwys manylion personol, cyfrineiriau, cysylltiadau a manylion banc
  • Glanyddion, mygydau a phecynnau swabio COVID-19 ffug, sy’n aml yn beryglus, yn cael eu gwerthu ar-lein ac wrth y drws.

Mae adroddiadau hefyd o sgamiau galwadau diwahoddiad a benthycwyr arian didrwydded yn cymryd mantais o’r cynnydd mewn ansicrwydd ariannol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance (Powys), Llefarydd CLlLC dros Ddiogelwch Cymunedol:

“Ar adeg pan fo llawer o’n trigolion yn barod ar eu pen eu hunain, yn bryderus ac yn ofnus, mae’n ffiaidd i weld unigolion diegwyddor yn targedu’r rhai mwyaf bregus yn ein cymunedau ni.

“Mae cynlluniau mewn lle gan gynghorau a phartneriaid i helpu’r rhai hynny sydd fwyaf angen cefnogaeth ychwanegol yn ystod y cyfnod anodd yma. Cynghorir trigolion i fod yn wyliadwrus, ac i siarad â theulu neu ffrindiau cyn ymateb. Rydyn ni’n annog trigolion i adrodd unrhyw weithgareddau amheus i’w awdurdod lleol, yr Heddlu neu Action Fraud.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig (Gwynedd), Llefarydd CLlLC dros Wasanaethau Rheolaethol:

“Cadw pobl yn ddiogel ac yn iach yw ein blaenoriaeth bennnaf, ac mae timau Safonau Masnach a’r Heddlu yn gweithio’n agos mewn partneriaeth i amddiffyn y cyhoedd rhag cael eu hamlygu i’r fath ymddygiad diegwyddor.

“Mae cynghorau wedi ymrwymo’n llwyr i wneud popeth posib, gan ddefnyddio’r holl bwerau gorfodi sydd ar gael iddyn nhw, i sicrhau bod y troseddwyr sy’n gyfrifol yn wynebu’r cosbau llymaf bosibl.”

 

-DIWEDD-

 

NODIADAU I OLYGYDDION

Gall unrhyw un sydd wedi cael eu targedu gan sgam adrodd hyn ar-lein ar https://www.actionfraud.police.uk/welsh neu trwy alw 0300 123 2040.

Am gyngor neu wybodaeth ar sut i wirio os y gall rhywbeth fod yn sgam, gall bobl gysylltu a Chyngor ar Bopeth ar-lein ar: https://www.citizensadvice.org.uk/cymraeg/consumer/scams/check-if-something-might-be-a-scam/

 

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30