CLILC

 

Cyfamod y Lluoedd Arfog - Prosiect Cenedlaethol Cymru

Yn 2017 derbyniodd CLlLC gyllid gan Gronfa Cyfamod Lluoedd Arfog y Weinyddiaeth Amddiffyn i ymgymryd â phrosiect cenedlaethol sy'n anelu i:

  • godi ymwybyddiaeth ynglŷn â Chyfamod y Lluoedd Arfog a’r materion sy’n effeithio Cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru;
  • gwella argaeledd yr wybodaeth am Gyfamod y Lluoedd Arfog ar gyfer Cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru;
  • gwella’r cyfathrebu yn ymwneud â Chyfamod y Lluoedd Arfog yng Nghymru a wnaed gan/rhwng awdurdodau lleol; a
  • hyrwyddo a rhannu arfer da.

Mae rhan o’r prosiect yn ymwneud â datblygu nifer o adnoddau newydd wedi’u hanelu at awdurdodau lleol.

 
Pecyn Hyfforddi’r Lluoedd Arfog

Mae Pecyn Hyfforddi’r Lluoedd Arfog, a ddatblygwyd gan Goleg Caerdydd a’r Fro, yn cynnwys pecyn hyfforddi wyneb yn wyneb a phecyn e-ddysgu. Mae’r pecyn hyfforddi yn addas ar gyfer aelodau etholedig awdurdod lleol, staff rheng flaen a rheolwyr adrannol, swyddogion a staff. Mae’r pecyn yn archwilio materion fel:

  • beth yw Cyfamod y Lluoedd Arfog;
  • beth yw Cymuned y Lluoedd Arfog;
  • pa faterion all Cymuned y Lluoedd Arfog eu hwynebu; a
  • beth mae’r awdurdodau lleol yn ei wneud

 

 
Prosiectau Cyfamod Rhanbarthol

Mae prosiect cenedlaethol Cymru yn gweithio ar y cyd â, yn gwneud cysylltiadau â ac yn ategu gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud gan awdurdodau lleol yn rhanbarthol; roedd cynigion unigol a wnaed gan y pump rhanbarth i Gronfa Cyfamod Lluoedd Arfog y Weinyddiaeth Amddiffyn hefyd yn llwyddiannus.

 
Cronfa Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog: Parthau y Prosiect (Cymru)

Parth 1 - Gogledd Cymru (Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd, Sir y Fflint a Wrecsam)

Cysylltwch â: Stephen Townley Stephen.Townley@wrexham.gov.uk

 

Parth 2 - Gorllewin Cymru: (Sir Gâr, Sir Benfo a Cheredigion)

Cysylltwch â: Hayley Edwards HREdwards@carmarthenshire.co.uk

 

Parth 3 - Dwyrain De Cymru: (Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg a Chaerdydd)

Cysylltwch â: Jamie Ireland Jamie.L.Ireland@rctcbc.gov.uk and Abigail Warburton awarburton@valeofglamorgan.gov.uk

 

Parth 4 - Gwent: (Torfaen, Caerffili, Blaenau Gwent, Casnewydd a Sir Fynwy)

Cyswlltwch â: Lisa Rawlings RAWLIL@CAERPHILLY.GOV.UK

 

Parth 5 - Gorllewin De Cymru (Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot, Abertawe)

Cyswlltwch â: Bethan Dennedy B.Dennedy@npt.go.uk

 

Parth 6 - Powys

Cyswlltwch â: Andy Jones Andy.Jones@powys.gov.uk


Mae rhagor o fanylion gan: Rachel Morgan

https://www.wlga.cymru/armed-forces-covenant-national-wales-project-