Gwobrau Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus – 2021 – Tîm Gwasanaeth Gorau: Gwasanaethau Iechyd yr Amgylchedd, Safonau Masnach a Rheoleiddio (CBS Caerffili)

Dydd Mercher, 22 Mehefin 2022 13:52:00

Mae Gwobrau’r Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus (APSE) i gydnabod y gorau mewn gwasanaethau cyhoeddus ac i rannu'r arfer gorau hwnnw gyda phawb. Yn 2021 derbyniodd APSE 320 o geisiadau aruthrol ar gyfer y Gwobrau, gyda phob un yn dangos ymrwymiad clir i nodau gwelliant parhaus a darparu rhagoriaeth mewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae Gwobrau'r Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus yn cydnabod y gorau o ran gwasanaethau rheng flaen llywodraeth leol ledled y Deyrnas Unedig, ac yn dilyn rownd drwyadl o feirniadu.

 

Cyrhaeddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili’r rhestr fer ar gyfer wobr 'Tîm Gwasanaeth Gorau: Gwasanaethau Iechyd yr Amgylchedd, Safonau Masnach a Rheoleiddio' ar gyfer ei Wasanaeth Olrhain Cysylltiadau.

 

Cafodd y tîm Tracio, Olrhain a Diogelu'r cyngor ei greu yn ystod cyfnod eithriadol i ddarparu gwasanaeth olrhain cysylltiadau yn y gymuned, gan gyflogi pobl leol i gefnogi'r gymuned yn ystod y pandemig.

 

Bwriad y gwasanaeth oedd cydweithio i sefydlu gwasanaeth Olrhain Cysylltiadau i helpu adfer cymdeithasol ac economaidd ein cymunedau, mewn modd sy'n ddiogel ac sy'n amddiffyn y GIG a'n timau gofal cymdeithasol. Dechreuodd Caerffili ei wasanaeth gyda thîm o ddeugain o staff wedi'u hadleoli gan ddefnyddio model gweithio o bell.

 

Mae'r tîm bellach yn gweithredu gwasanaeth olrhain cysylltiadau soffistigedig sy'n perfformio'n dda, sy'n hanfodol i'n hymateb i COVID-19 ac yn cynnig cefnogaeth a chyngor cynhwysfawr i'n dinasyddion i'w cynorthwyo i gydymffurfio â gofynion hunan ynysu i helpu cadw ein cymunedau'n ddiogel.

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30