Cynllun “uchelgeisiol” Llywodraeth Cymru i brofi, olrhain a diogelu yn hanfodol i fyw â Coronafeirws

Dydd Gwener, 15 Mai 2020

Yn ymateb i gynllun Llywodraeth Cymru i brofi, olrhain a diogelu, dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf), Arweinydd CLlLC:

“Mae ein bywydau ni wedi cael eu heffeithio’n ddwys gan COVID-19, a tra ein bod ni’n dysgu mwy am ymddygiad yr haint, mae’n debygol y byddwn ni’n gorfod dysgu i fyw ag e am gyfnod hir. Bydd olrhain yr haint yn hanfodol i’n galluogi ni i wneud hynny, ac i reoli’r argyfwng ar hyn o bryd.”

“Bydd y cynllun aml-asiantaeth uchelgeisiol a amlinellwyd gan Lywodraeth Cymru angen adnoddau ychwanegol sylweddol er mwyn iddo gael ei wireddu’n llwyddiannus. Ynghyd â swyddogion cyngor arbenigol mewn diogelu’r cyhoedd, bydd angen recriwtio neu adleoli llu o staff eraill i gefnogi’r gwaith enfawr i reoli’r haint mewn cymunedau lleol. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod y bydd cost i’r gwaith yma, ac mi fydd cynghorau yn parhau i weithio â Gweinidogion i archwilio’r goblygiadau a’r cyllid fydd ei angen.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Huw David (Penybont ar Ogwr), Llefarydd CLlLC dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Coronafeirws yw’r argyfwng iechyd cyhoeddus mwyaf i ni wynebu mewn cenedlaethau, ac mae cynghorau wedi chwarae rhan fawr i wneud popeth gallant i helpu i leddfu’r pwysau ar y gwasanaeth iechyd ac i ofalu am y rhai mwyaf bregus yn ein cymunedau. Mae awdurdodau lleol yn awyddus i barhau i gefnogi’r strategaeth genedlaethol trwy ddefnyddio gwybodaeth leol. Gall swyddogion diogelu’r cyhoedd rannu eu cyfoeth o brofiad ac arbenigedd gyda chydweithwyr ar lefel genedlaethol er mwyn i ni allu gwneud y gwaith i olrhain cyswllt ar raddfa fwy ac ar fyrder. Bydd cynghorau yn parhau i weithio’n agos gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru a phartneriaid o fewn iechyd wrth i ni gychwyn ar gyfnod nesaf yr argyfwng yma.”

“Er bod ffrwyth ymdrechion ac aberthau pawb i leihau lledaeniad y feirws yn cychwyn egino, dydyn ni ddim mewn unrhyw ffordd yn agos o gyrraedd diwedd yr argyfwng yma. Dyw’r bygythiad y mae’r coronafeirws yn ei gynrychioli heb leihau ac mae angen i ni i gyd i barhau i gydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Bydd cynghorau yn parhau i weithio’n agos â Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru a phartneriaid yn y gwasanaeth iechyd, wrth i ni gychwyn ar gyfnod nesaf yr argyfwng hwn.”

-DIWEDD-

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30