Posts in Category: COVID-19 (Mynd i'r afael â Thlodi Bwyd - Partneriaeth)

Well-Fed – o ddarparu prydau maethlon mewn cartrefi gofal i focys bwyd mewn argyfwng (CS Fflint)  

Mae Well-fed yn bartneriaeth rhwng Cyngor Sir y FflintClwyd Alyn a Can Cook – cwmni bwyd sy’n ymroi i fwydo pawb yn dda. Ers argyfwng Covid-19, mae Well-fed wedi addasu ei weithrediadau o gyflenwi prydau parod maethlon i gartrefi gofal i ymateb i’r galw anhygoel i ddarparu bwyd ar frys yn y sir. Ochr yn ochr â phrydau parod maethlon, mae’r Cyngor wedi bod yn cyflenwi bagiau popty araf a ‘Bocsys Diogelwch Well-fed’ oedd yn ychwanegiad i focsys Cysgodi Llywodraeth Cymru. Cafodd y blychau diogelwch ‘saith niwrnod’ eu darparu i’r bobl oedd yn cael eu hystyried yn ddiamddiffyn, yn cysgodi am resymau iechyd a’r rhai oedd angen cymorth â bwyd am resymau ariannol, ac yn cynnwys detholiad o brydau barod, prif fwydydd a nwyddau ymolchi.  

Mynd i'r afael â Thlodi Bwyd trwy’r pandemig – Cyngor Abertawe 

Ar ddechrau’r pandemig daeth Cyngor Abertawe a’i bartneriaid yn y Sectorau Iechyd a Gwirfoddol at ei gilydd i ffurfio ymateb cydgysylltiedig. Un elfen o hynny oedd sefydlu gweithgor a oedd yn cynnwys swyddogion wedi’u hadleoli o’r Gwasanaethau Diwylliannol, Eiddo ac Atal, Cydlynu Ardal Leol a Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe (SCVS). Dechreuodd y Cyngor ac SCVS fapio darpariaeth bwyd ledled y sir i sicrhau bod gwybodaeth ar gael i unrhyw unigolion mewn angen ynglŷn â ble i gael gafael ar fwyd addas. Darparwyd y wybodaeth ar wefan y Cyngor a hefyd trwy wasanaeth cyfeirio uniongyrchol SCVS, a oedd yn casglu gwybodaeth fesul ardal clwstwr meddygfa. Mae’r Cyngor wedi cefnogi’r banciau bwyd cymunedol, a reolir yn y Canolfannau Dosbarthu Bwyd, trwy gydol y pandemig trwy roi a phrynu nwyddau, ac mae SCVS wedi llwyddo i drefnu danfoniadau FareShare i nifer o fanciau bwyd annibynnol yn y Sir. Os oes angen bwyd neu hanfodion eraill ar frys, mae gan bob unigolyn gyswllt â'r rhwydwaith hwn a bydd 'pecyn argyfwng' yn cael ei ddanfon naill ai gan yr awdurdod lleol neu'r SCVS. Mae Swansea Together, partneriaeth rhwng sefydliadau o’r sectorau cyhoeddus, trydydd a phreifat sef SCVS, yr Awdurdod Lleol, Matthew’s House, Crisis, The Wallich, Zac’s Place a Mecca Bingo, wedi darparu miloedd o brydau bwyd i bobl ddiamddiffyn iawn yn ystod yr argyfwng. Mae’r bartneriaeth wedi cael cefnogaeth SCVS a’r Awdurdod Lleol gyda chyngor, cyhoeddusrwydd, cyflenwadau bwyd, gwirfoddolwyr a chludiant.

Cefnogi Banciau Bwyd ym Mhowys (Cyngor Sir Powys) 

Mae Tîm Adfywio Cyngor Sir Powys a Tyfu ym Mhowys wedi helpu banciau bwyd Powys i reoli’r heriau a’r newidiadau a ddaeth yn sgil COVID-19. Bu’r tîm yn rheoli’r Grant Tlodi Bwyd gan Llywodraeth Cymru, a ddosbarthwyd gan CLlLC. Rhannwyd y grant refeniw o £11,602.08 rhwng saith o fanciau bwyd ym Mhowys. Roedd yr arian grant Cyfalaf ychwanegol o £13,477.00 er mwyn cefnogi mynediad sefydliadau at gyflenwadau ychwanegol o fwyd o ansawdd dda, ei storio a’i ddosbarthu, drwy brynu offer fel rhewgelloedd. Yn ystod y cyfnod clo, roedd gan y banciau bwyd arian i brynu ffonau clyfar neu liniaduron i alluogi gweithio hyblyg. Oherwydd prinder rhewgelloedd cist, cafwyd rhewgelloedd i ffitio o dan y cownter mewn un achos. Nododd hwb Llandrindod iddyn nhw weld cynnydd o 300% mewn galw. Gallai Cwmtawe Action to Combat Hardship storio cyflenwadau sylweddol o fara a nwyddau wedi eu pobi yn eu rhewgell newydd. Drwy ymwneud â chymunedau yn ardaloedd Ystradgynlais a'r Gelli Gandryll, sefydlwyd banciau bwyd allgymorth ychwanegol.

Dyweddodd Banc Bwyd Y Drenewydd, a ariennir gan Salvation Army: “Rydym wedi gorfod cau ein siop a thrwy hynny, wedi colli’r cyfle i barhau i godi arian ein hunain drwy werthu ein nwyddau. Fe droesom at eich arian chi ar unwaith i’n helpu ni.”  

Defnyddio taliadau llog solar i gefnogi banciau bwyd (Cyngor Sir Gar) 

Bydd banciau bwyd yn Sir Gaerfyrddin yn cael dros £42,000 ar ffurf talebau bwyd, byddant yn derbyn cyfran o’r arian mewn talebau o’r incwm a gynhyrchir gan banelau solar ar doeau adeiladau Cyngor Sir Gâr. Bydd pob banc bwyd sydd wedi gweld cynnydd sylweddol mewn galw ers pandemig y coronafeirws, yn derbyn rhestr o gyflenwyr ble gallan nhw gael nwyddau. Mae’r cyfraniad yn gyfwerth a thua £70,000 am bob mega-wat o solar a osodwyd, sef y taliad sengl mwyaf am bob megawat o solar a osodwyd i unrhyw gymdeithas budd cymunedol, fferm solar fasnachol neu bortffolio yn y DU.

Dywedodd y Cyng. David Jenkins, aelod o fwrdd gweithredol y cyngor dros adnoddau, a chyfarwyddwr Egni Sir Gâr Cyfyngedig, cymdeithas egni budd cymunedol a sefydlwyd gan y Cyngor yn 2015: “Mae pobl yn gwneud mwy o ddefnydd nag erioed o’r banciau bwyd er mwyn darparu prydau. Mae’n gyfnod heriol i bawb wrth i bandemig y coronafeirws barhau. Drwy ailgylchu ein taliad llog solar, bydd yn helpu’r rhai sy’n ei chael yn anodd ac yn methu fforddio hanfodion bywyd.”

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30