Posts in Category: Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cefnogi ysgolion gyda dysgu yn y cartref (CBS Castell-nedd Port Talbot) 

Fe fu ysgolion yn cefnogi dysgu yn y cartref drwy gydol y cyfnod clo.

Fe gynhaliodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot arolwg o’u holl ysgolion yn ymwneud â’u darpariaeth dysgu o bell a lluniwyd Cynllun Parhad Dysgu a chafodd ei rannu gyda’r holl ysgolion o ganlyniad.

Roedd yr arolwg yn nodi unrhyw ddiffygion yn ymwneud â hyfforddiant a’r gefnogaeth oedd ei hangen a chefnogwyd unrhyw ysgol oedd angen cymorth technegol er mwyn darparu dysgu o bell gan swyddogion y cyngor.

Mae’r cyngor wedi darparu dros 1000 o ddyfeisiau ar gyfer disgyblion nad oes ganddynt offer TG priodol na / neu fynediad i’r rhyngrwyd.

Wrth baratoi ar gyfer ailagor, fe baratôdd yr holl ysgolion yng Nghastell-nedd Port Talbot gynlluniau adfer ac asesiadau risg wedi eu seilio ar y canllawiau a ddarparwyd gan dîm gwella ysgolion y cyngor a Llywodraeth Cymru, a darparodd y cyngor ganllawiau ar Ddysgu Cyfunol. Wrth i'r ysgolion ailagor fe sicrhaodd y cyngor fod Penaethiaid yn derbyn cefnogaeth wythnosol i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt ar ddatblygiadau allweddol ac i drafod pryderon. Sefydlwyd porthol Cwestiynau Cyffredin pwrpasol.

Model Ar-lein ar gyfer darparu Gwasanaethau Ieuenctid (CBS Rhondda Cynon Taf) 

Mae Gwasanaeth Ymgysylltiad a Chyfranogiad Ieuenctid (YEPS) Rhondda Cynon Taf wedi’u hymrwymo i gefnogi pobl ifanc 11 i 25 oed i wella eu cadernid i ddelio â heriau yn y presennol ac yn y dyfodol, gan gefnogi eu lles a’u hymgysylltiad cadarnhaol a chyfraniad yn y cymunedau maent yn byw.

Mae’r model darparu ar-lein newydd wedi cael ei ddatblygu a’i gyflwyno, yn ogystal â gwasanaethau negeseua gwib, clybiau ieuenctid ar-lein ar zoom a sesiynau holi ac ateb ar instagram ac ati, gan gynnwys WICID.TV, i bobl ifanc sydd ddim mewn addysg, gwaith na hyfforddiant, ac yn cynnwys fideos ar amrywiaeth o destunau, megis gwneud cais am swydd, technegau STAR, cyfweliadau swydd ar-lein ac mae mwy o fideos yn cael eu hychwanegu bob wythnos. Mae’r adran Gwaith, Addysg a Hyfforddiant hefyd yn cynnwys dolenni i brentisiaethau sydd ar gael yn Rhondda Cynon Taf, cymorth Gyrfa Cymru, diwrnodau agored ar-lein colegau ac ati. Mewn partneriaeth â’r Cyngor roeddent hefyd yn gallu cynnig wythnos profiad gwaith ar-lein gyntaf yn Rhondda Cynon Taf, a oedd yn annog nifer o bobl ifanc 16 oed a hŷn i fynd ar-lein i gael cyngor ar yrfaoedd, ac ati.

Ymateb Dechreuol Arlwywyr Ysgolion i Brydau Ysgol am Ddim (Cymru Gyfan) 

Yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru bod addysg statudol yn cael ei atal dros dro o ganol mis Mawrth 2020, un o’r pryderon mwyaf oedd sut i ddarparu ar gyfer y plant oedd â hawl i brydau ysgol am ddim yn ystod y cyfnod hwn. Yn yr wythnosau cyntaf, roedd Awdurdodau Lleol (ALl) yn darparu pecynnau bwyd i’w casglu o’r ysgolion, canolfannau lleol neu eu danfon i gartrefi. Fodd bynnag, roedd y nifer oedd yn defnyddio’r gwasanaeth yn isel, ac roedd gwastraff yn uchel felly nid oedd hyn yn gynaliadwy yn yr hirdymor.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bod £7M ar gael i ALl ddarparu prydau ysgol am ddim i ddisgyblion cymwys yn ystod gwyliau’r Pasg, a £33M ychwanegol hyd at ddiwedd gwyliau’r haf. Mewn ymateb, cynhaliodd a rheolodd CLlLC gyfarfodydd ar-lein cenedlaethol a rhanbarthol gydag arlwywyr ALl a Llywodraeth Cymru i olrhain a rhannu gwybodaeth am ymateb arlwywyr ysgolion a materion oedd yn codi. Roedd y cyfarfodydd hyn yn cyfrannu at Ganllawiau Prydau Ysgol am Ddim a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

Yn ystod y cyfnod dechreuol, datblygodd yr ALl ddarpariaeth yn unol â’u hanghenion a galw lleol a chynigiwyd y dewisiadau canlynol: taliadau uniongyrchol (17), danfon bwyd (10), talebau bwyd (8) neu wasanaeth casglu (1). Fodd bynnag, roedd y mwyafrif o ALl yn cynnig nifer o ddewisiadau, a oedd yn gweithio’n dda ac yn dangos pwysigrwydd dull lleol i gefnogi eu cymunedau lleol.

Datblygodd a chyhoeddodd CLlLC daflen wybodaeth Gwneud y Mwyaf o'ch taliadau neu dalebau Prydau Ysgol am Ddim i bob ALl er mwyn eu rhannu â rhieni, gan ddarparu argymhellion defnyddiol ar gynllunio, siopa a pharatoi bwyd maethlon, ynghyd â rhestr siopa posibl. Roedd Data Cymru hefyd yn casglu data ar ymateb ALl i ddarparu prydau ysgol am ddim yn ystod y cyfnod hwn.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar yr ymateb dechreuol yn y Cyflwyniad 'Trosolwg o ymatebion Prydau Ysgol am Ddim  i COVID-19 yng Nghymru'.  

Cyngor Ieuenctid Sir Fynwy – Ymgysylltu er mwyn Newid (Cyngor Sir Fynwy) 

Ymgysylltu er mwyn Newid (E2C) yw Cyngor Ieuenctid Sir Fynwy, a ymatebodd i sefyllfa Covid-19 yn gyflym drwy drefnu cyfarfodydd wythnosol ar-lein. Nod y sesiynau hyn yw sicrhau bod llais pobl ifanc Sir Fynwy yn parhau i gael ei glywed a’i gefnogi.   

I ddechrau, roedd E2C yn trafod profiadau, materion ac emosiynau  yr oedd ganddynt yn ystod cyfnod cynnar y clo, a gwahoddwyd Dr Sarah Brown (Seicolegydd Clinigol, Seicoleg Gymunedol Gwent, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan) i drafod sut allai pobl ifanc ddatblygu gwytnwch. O ganlyniad, fe wnaeth y bobl ifanc helpu i greu cynnwys ar gyfer straeon dyddiol y Gwasanaeth Ieuenctid ar Facebook ac Instagram, gan gynnwys ‘Dydd Mercher Lles’.   Roedd pobl ifanc yn rhan o dreialu llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a ddefnyddiwyd gan gynnig gwaith digidol y Gwasanaethau Ieuenctid ar gyfer sesiynau galw heibio, clybiau amser cinio a ieuenctid ar-lein. 

Mae E2C wedi cynnal cyswllt gyda Fforwm Rhanbarthol De-Ddwyrain Cymru, ac ar hyn o bryd yn datblygu prosiect Ucan fel rhan o Gronfa Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol Llywodraeth Cymru. Mae gweithio’n rhanbarthol wedi galluogi E2C i rannu profiadau gyda phobl ifanc o ardaloedd daearyddol eraill, gan ddatblygu perthnasau a rhwydweithiau cefnogi, yn ogystal â hyder a hunan-barch.

Yn ddiweddar, mae E2C wedi dechrau cynnal sesiynau holi ac ateb wythnosol gyda phobl sy’n gwneud penderfyniadau, er mwyn trafod materion a nodir gan bobl ifanc, megis iechyd meddwl, cludiant, addysg a blaenoriaethau Sir Fynwy a nodwyd yn yr ymgynghoriad Gwneud eich March Cyngor Prydain.

Prosiect Estyn Allan a Dargedir (CBS Caerffili) 

Roedd Heddlu Gwent yn cael nifer o broblemau gyda phobl ifanc nad oedd yn dilyn rheolau’r cyfnod clo ac fe wnaethant gysylltu â Gwasanaethau Ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i’w cynorthwyo i ymgysylltu â phobl ifanc. Cytunwyd y byddai’r heddlu a staff ieuenctid estyn allan y Cyngor yn cyflawni patrolau ar y cyd er mwyn siarad â phobl ifanc am ragofalon diogelwch COVID-19. Roedd hyn hefyd yn galluogi gwasanaethau ieuenctid a’r heddlu i wirio eu lles a darparu cymorth ychwanegol os oedd angen. Mae staff y Gwasanaeth Ieuenctid wedi bod allan gyda'r heddlu 2-3 gwaith yr wythnos, gan weithio gyda thimoedd plismona cymdogaethau ar draws y fwrdeistref.  Roedd y patrolau yn canolbwyntio ar ardaloedd lle ganfuwyd ymddygiad gwrthgymdeithasol neu lle roedd grwpiau o bobl ifanc wedi cael eu gweld. Roedd rhai anawsterau ar y dechrau, gan nad oedd rhai pobl ifanc yn awyddus i siarad gyda'r heddlu, ond goresgynnwyd hyn gan fod y gweithiwr ieuenctid gyda nhw ac yn annog y bobl ifanc i ymgysylltu. Mae lefel ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi lleihau ar draws y fwrdeistref, ac mae llai o bobl ifanc i’w gweld, sydd wedi arwain at leihau’r gefnogaeth oedd ei angen gan yr heddlu.

 “Gwaith partneriaeth gwych...cefnogi pobl ifanc yn ystod y cyfnod hwn...rhaid i ni fod yn rhagweithiol...nid aros i’r broblem gael ei chodi...bydd bod yn weledol yn darparu sicrwydd ac yn annog pobl ifanc i ymgysylltu â ni...” Prif Gwnstabl Pam Kelly, Heddlu Gwent @GP_PamKelly

Canllawiau i staff ar ailagor Canolfannau Ieuenctid a chymorth wyneb yn wyneb (Cyngor Sir Ceredigion) 

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn sylweddoli bod y cyfnod hwn wedi bod, ac yn parhau i fod yn gyfnod anodd iawn i bawb. Nid yw plant na phobl ifanc wedi gallu treulio amser gyda ffrindiau, cyfoedion na staff cymorth fel gweithwyr ieuenctid - staff y mae llawer ohonynt yn ystyried yn oedolion y gallan nhw ymddiried ynddynt. Ceir tystiolaeth gynyddol bod diffyg rhyngweithio o’r fath yn effeithio ar iechyd a lles meddyliol ac emosiynol pobl ifanc. O ganlyniad, mae'r Cyngor yn paratoi ac yn cynllunio i ailagor darpariaethau wyneb yn wyneb fel canolfannau ieuenctid. Bydd yn gwneud y canolfannau yn ddiogel, addysgiadol ac yn hwyl. Mae’r Canllawiau i Staff yn ddogfen ar gyfer staff sy’n darparu cymorth ac ymyraethau o fewn canolfannau ieuenctid yr awdurdod lleol. Fodd bynnag, bydd llawer o’r agweddau yn berthnasol i leoliadau teuluoedd ac addysgol eraill ac yn cyd-fynd ag amcanion COVID-19 Cyfnod 3: Addasu a Chydnerthedd Hirdymor y Cyngor.

 

Dalier sylw: Mae’r canllawiau hyn yn seiliedig ar yr wybodaeth ddiweddaraf (18 Mehefin 2020) a byddant yn cael eu diweddaru yn ôl yr angen.

Llwyfan Rhith-Amgylchedd Dysgu (Cyngor Sir Benfro) 

Mae Tîm Digartrefedd Ymhlith Pobl Ifanc Sir Benfro wedi addasu ei arferion i ymgysylltu, addysgu, rhoi gwybod a chynorthwyo pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol. Mae’r mentrau hyn yn cynnwys: Cyrsiau Sgiliau Tenantiaeth ac Ymwybyddiaeth o Ddigartrefedd wedi’u darparu ar ffurf rhaglen ddysgu cyfunol; Sesiynau Rhyngweithiol gyda mynediad i weithwyr ieuenctid, yn ogystal ag ystorfa o adnoddau ac ystod o heriau, cwisiau, tasgau gwaith a fideos, wedi’u cynnal ar lwyfan Rhith-amgylchedd Dysgu. Bydd gwaith yr unigolion yn cael ei osod a’i fonitro drwy’r llwyfan hwn ond mi fydd yna gyfle i wneud apwyntiad i ddod i’n hamgylchedd dysgu yn y Ganolfan Byw'n Annibynnol. Bydd y sesiynau hyn yn cael eu cynllunio i gyd-fynd â cherrig milltir dysgu allweddol a gyrhaeddir yn y Rhith-Amgylchedd Dysgu. Bydd y rheiny sydd heb sgiliau TGCh i gwblhau’r tasgau ar y llwyfan hwn yn cael cynnig sesiynau wyneb yn wyneb ychwanegol a bydd y rheiny heb ddyfais briodol yn cael benthyg un.

Ysgolion Hyb (CBS Torfaen) 

Ers dechrau pandemig COVID-19 a’r mesurau cadw pellter cymdeithasol, mae Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen wedi bod yn rhan o dîm sy’n cynnal hyb ysgolion uwchradd ar gyfer plant gweithwyr allweddol a phobl ifanc diamddiffyn. Prif rôl y Gwasanaeth Ieuenctid oedd hwyluso a darparu gweithgareddau i’r bobl ifanc. Yn ogystal â hyn, gan weithio’n agos â Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Chynhwysiant, fe greodd y Gwasanaeth Ieuenctid hyb bychan yn un o’i ganolfannau ieuenctid ar gyfer ychydig o bobl ifanc hynod o ddiamddiffyn a oedd angen mwy o gefnogaeth. Roedd yr hyb yn cynnig cyfleoedd i’r bobl ifanc goginio, garddio a chymryd rhan mewn gweithgareddau meithrin tîm ac ati. Mae’r bobl ifanc wedi ymgysylltu’n annibynnol â gweithgareddau'r hyb er bod rhai ohonyn nhw’n cael cymorth 1 i 1 i gael mynediad at ddysgu ffurfiol. Mae @torfaenyouth wedi bod yn lle diogel y gall pobl ifanc sy’n bryderus ynghylch eu rhieni a’u perthnasau ei fwynhau a'i werthfawrogi.

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30