Yn ymateb i gadarnhad y Prif Weinidog y bydd holl staff sy’n gweithio mewn cartrefi gofal yn derbyn taliad ychwanegol o £500, dywedodd y Cynghorydd Huw David (Penybont ar Ogwr), Llefarydd CLlLC dros Ofal Cymdeithasol a Iechyd:
“Rydyn ni’n falch dros ben bod Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i ganfod ffordd ymlaen i roi’r gydnabyddiaeth yma i’r holl weithwyr sy’n gweithio mewn cartrefi gofal am eu rhan allweddol, a bod Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio â Llywodraeth y DU a CThEM i geisio sicrhau bod pob ceiniog o’r taliad yn cyrraedd pocedi pobl.
“Dros y misoedd diwethaf, mae staff mewn cartrefi gofal wedi dangos ymroddiad o’r radd flaenaf i weithio gyda’i gilydd fel tîm i roi’r gofal gorau posib i’r rheiny sydd fwyaf ei angen. Yn ogystal â gweithwyr gofal personol, mae’n gwbl gywir y bydd y taliad ychwanegol hefyd yn cael ei estyn i holl weithwyr cartrefi gofal, yn ogysal a chynorthwywyr personol a gweithwyr gofal cartref. Mewn cyfnod mor anodd, ac o dan amodau heriol tu hwnt, mae nhw’n gwneud popeth o fewn eu gallu i lapio blanced gysur o gefnogaeth a diogelwch ogwmpas y rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas. Bydd eu rôl yn parhau i fod yn hollbwysig wrth i’r ymdrechion barhau i ymateb i’r feirws.”
-DIWEDD-
NODIADAU I OLYGYDDION: Gweler fwy o wybodaeth yma am gyhoeddiad y Prif Weinidog am estyn y taliad ychwanegol: https://llyw.cymru/staff-mewn-cartrefi-gofal-i-gael-ps500-yn-ychwanegol