Gwefannau defnyddiol

(Bydd rhai dolenni yn agor yn Saesneg)

Accreditation Network UK

Mae’r rhwydwaith hwn yn adnodd canolog i denantiaid, landlordiaid a gweithredwyr cynlluniau a chanddynt ddiddordeb mewn achredu tai preifat sydd ar osod yn y Deyrnas Gyfunol. Mae’n rhoi cymorth ac arbenigedd ac yn hybu’r arferion gorau o ran gweithredu cynlluniau.

Association of Housing Advice Services

Mae aelodau’r gymdeithas hon yn lledaenu’r arferion gorau ynglŷn â chynghori am faterion tai, cwtogi ar lety dros dro ac atal digartrefedd. Maen nhw’n ymgysylltu ag arbenigwyr eraill, landlordiaid ac adrannau gwladol ynglŷn â deddfau, pobl sengl sydd heb gartref a datrys problemau ym maes tai.

Association of Residential Letting Agents

Y gymdeithas hon yw prif gorff proffesiynol yr asiantau sy’n rhoi tai ar osod. Mae’i haelodau’n broffesiynolion sy’n gweithio ar bob lefel boed berchennog cwmni neu weithiwr gweinyddol.

Department for Communities and Local Government

Polisïau Llywodraeth San Steffan ynglŷn â thai preifat sydd ar osod.

Crisis – gwybodaeth i weithwyr tai

Mae Crisis yn elusen i bobl ddigartref y Deyrnas Gyfunol ac mae wedi ymroi i drechu digartrefedd trwy gynnig gwasanaethau hanfodol ac ymgyrchu dros newidiadau.

Rent Smart Cymru

Dyma’r gwasanaeth sy’n cofrestru landlordiaid ac yn rhoi trwyddedu i landlordiaid ac asiantau mae Deddf Tai Cymru 2014 yn berthnasol iddyn nhw.

Landlord zone

Gwefan y caiff landlordiaid ac asiantau ei defnyddio yn rhad ac am ddim ynglŷn â rhoi tai ar osod. Mae ganddi fforwm, blogiau, erthyglau, diweddariadau cyfreithiol, y newyddion dyddiol, crynodebau a dolenni â chyfryngau cymdeithasol. Mae’n cynnig gwybodaeth gynhwysfawr a dibynadwy am amryw bynciau megis penderfyniadau llysoedd a phrosesau/gweithdrefnau rhoi tai ar osod yn ogystal ag adnoddau megis ffurflenni, rhybuddion a llythyrau safonol.

Local Government Association - Housing

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Lloegr yn sefydliad trawsbleidiol sy’n gweithio ar ran cynghorau lleol o dan arweiniad gwleidyddion i ofalu y bydd Llywodraeth San Steffan yn rhoi sylw priodol i faes llywodraeth leol.

National Landlords Association

Mae’r gymdeithas hon yn rhoi cymorth a chynghorion arbenigol i landlordiaid ynglŷn â phob rhan o brosesau rhoi tai ar osod.

Llywodraeth Cymru – Tai ac Adfywio – Rhentu

Llywodraeth Cymru yw llywodraeth ddatganoledig y wlad hon gan helpu i wella byd y trigolion a gofalu bod Cymru yn lle gwell i fyw a gweithio ynddo.


 

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30