Panel Strategaeth Hinsawdd Llywodraeth Leol

Mae Panel Strategaeth Hinsawdd Llywodraeth Leol wedi’i sefydlu i helpu i arwain, cefnogi a rhoi trosolwg strategol i waith Datgarboneiddio mewn llywodraeth leol. Gan gydweithio, bydd y Panel yn rhannu arbenigedd, tystiolaeth a datrysiadau i sicrhau bod buddsoddiad, strategaeth a pholisi mor effeithiol ag sy’n bosibl.

 

Cyfarfu’r Panel dros y we am y tro cyntaf yn ystod Wythnos yr Hinsawdd Cymru 2020, ac maen parhau i cwrdd chwarterol. Mae’r Panel yn goruchwylio ac yn llywio darpariaeth Ymrwymiadau Llywodraeth Leol yn Cymru Net Sero, yn seiliedig ar y meysydd blaenoriaeth ar gyfer y sector cyhoeddus - caffael, adeiladau, cludiant, defnydd tir ac addasu. Mae’r Panel yn adrodd i Gyngor Partneriaeth Cymru ar gyfer trosolwg gwleidyddol. Gallwch ddarllen papurau diweddaru’r Panel i’r Cyngor Partneriaeth yma.

 

Gan gydnabod bod llawer o waith sy’n mynd rhagddo eisoes, nad bwriad y Panel oedd efelychu grwpiau a gweithgareddau sy’n bodoli eisoes, ond yn hytrach symbylu a chyflymu newid er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Yr angen i gydweithio ydy nod allweddol i’r Panel, fel bod modd i awdurdodau rannu arfer da a gwersi a ddysgwyd, yn ogystal â chydweithredu er mwyn lleihau galw ar adnoddau.

 

Mae llywodraeth leol mewn sefyllfa unigryw i arwain trwy esiampl a chynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o raddfa a chyflymder newid sydd ei angen i cyrraedd y targed uchelgeisiol at ddod yn sero net erbyn 2030.

 

Pwy yw aelodau’r Panel?

Mae’r Panel yn cynnwys cynrychiolwyr o awdurdodau lleol ar draws Cymru sy’n cynrychioli eu rhanbarth, aelodau Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghyd ag arbenigwyr technegol.

Rhanbarth maen nhw’n ei chynrychioli Enw Sefydliad
Cymru Gyfan Tim Peppin (Cadeirydd) Cyfarwyddwr Corfforaethol - CLlLC
Gogledd Cymru Graham Boase Prif Weithdredwr - Cyngor Sir Ddinbych
Gogledd Cymru Helen White Cyngor Sir Ddinbych
Gogledd Cymru Helen Vaughan-Evans Pennaeth Gwasanaeth Cymorth Corfforaetho - Cyngor Sir Ddinbych
Gogledd Cymru Steffan Jones Pennaeth Priffyrdd, Peirianneg ac YGC - Cyngor Gwynedd
Gogledd Cymru Geraint Edwards Cyfarwyddwr yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau
Canolbarth Cymru Eifion Evans

Prif Weithredwr - Cyngor Sir Ceredigion

De Orllewin Cymru Wendy Walters Prif Weithredwr - Cyngor Sir Gaerfyrddin
De Orllewin Cymru Rhodri Griffiths Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd - Cyngor Sir Gaerfyrddin
De Ddwyrain Cymru Jake Morgan Prif Weithdredwr - Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
De Ddwyrain Cymru Rachael O'Shanghnessy Rheolwr Cynaliadwyedd ac Amgylcheddol - Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Cymru Gyfan Tegryn Jones Cynrychiolydd Parciau Cenedlaethol
Cymru Gyfan Clive Walmsley Cyfoeth Naturiol Cymru
Cymru Gyfan Reg Kilpatrick Cyfarwyddwr Llywodraeth Leol - Llywodraeth Cymru
Cymru Gyfan Lisa Wise

Dirprwy Gyfarwyddwr Newid Hinsawdd ac Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol - Llywodraeth Cymru

Cymru Gyfan Claire Bennett Cyfarwyddwr - Newid hinsawdd a chynaliadwyedd amgylcheddol - Llywodraeth Cymru

Sefydlwyd Panel y Strategaeth Hinsawdd yn dilyn datganiad ar y cyd a gyhoeddwyd gan Gyngor Partneriaeth Cymru i sicrhau bod uchelgais Cymru i’r sector cyhoeddus gyflawni carbon sero net erbyn 2030 yn flaenllaw o ran gwneud penderfyniadau ac adferiad ar ôl Covid.


Dolen:


Mae rhagor o wybodaeth gan: Tim Peppin

  Amdanon ni

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30