Yn rhan o Academi Cymru, mae Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cydweithio â Chymdeithas Llywodraeth Leol Lloegr (LGA) eto er mwyn cynnig rhaglen meithrin medrau arwain i gynghorwyr.
Mae’r rhaglen wedi’i chydnabod gan Sefydliad Arwain a Rheoli, corff mwyaf blaengar y Deyrnas Gyfunol ynglŷn ag achredu cyrsiau arwain a rheoli. Bydd pawb sydd wedi gorffen y rhaglen yn ennill tystysgrif.
Diben y rhaglen hon yw galluogi arweinyddion a chynghorwyr eraill sy’n ymwneud ag arwain i ystyried y syniadau diweddaraf ym maes arweiniad gwleidyddol a meithrin yr wybodaeth a’r medrau angenrheidiol i ateb heriau.
Un o gryfderau’r rhaglen yw ei bod yn rhoi cyfle i gynghorwyr o bob plaid wleidyddol gwrdd â’u cyfatebion o gynghorau a phleidiau eraill a thrafod materion sy’n gyffredin iddyn nhw.
Mae’r cyfuniad hwnnw o ddysgu gan arbenigwyr ym maes arwain a thrwy profiad cyfoeswyr yn rhoi i’r cynghorwyr hyder yn eu galluoedd a rhwydwaith newydd o bobl y gallan nhw ymddiried ynddynt.
Bydd y Rhaglen Arwain i Gynghorwyr nesaf yn cael ei gynnal yn yr Hydref 2022.
Rhaglen Arwain i Gynghorwyr: Cwestiynau a ofynnir yn aml
Mae rhagor o wybodaeth gan: Sarah Titcombe