Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (GCC) wedi cael tystysgrif gymeradwyaeth ar gyfer y Wobr Caffael Ysgolion gan Wobrau Busnes Addysg am gydweithio wrth ddarparu gorchuddion wyneb i blant ysgol. Yn ystod y pandemig Covid-19, bu i’r GCC weithio gyda Lyreco, CLlLC a RotoMedical, adran offer cyfarpar diogelu a meddygol Rototherm Group, ym Margam, De Cymru, i gynhyrchu a dosbarthu gorchudd wyneb 3 haen i blant ysgol Cymru trwy'r fframwaith GCC ar gyfer cyfarpar diogelu personol. Bu i CLlLC amlygu’r angen i ddarparu gorchuddion wyneb, i ysgolion Cymru i GCC yn dilyn cyhoeddi grant Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol Cymru i brynu’r eitemau hyn. Roedd hefyd ddyhead i gynhyrchu gorchuddion wyneb yng Nghymru. Yna, bu i GCC a CLlLC weithio gyda RotoMedical i ddeall sut y gallant helpu i wasanaethu sector cyhoeddus Cymru yn y frwydr yn erbyn y feirws. Prynodd Lyreco y cynnych gan RotoMedical ar ran GCC a’u dosbarthu i gwsmeriaid gan ddefnyddio eu rhwydwaith logisteg cenedlaethol eu hunain. Mae Lyreco yn gwasanaethu eu cwsmeriaid de Cymru o’u canolfan ddosbarthu ym Mhen-y-Bont ar Ogwr a chwsmeriaid Gogledd Cymru o ychydig dros y ffin yn Warrington.