Posts in Category: COVID-19 (Cynghorwyr - Ymgysylltu)

Cefnogi cymunedau lleol yng Ngheredigion (Cyngor Sir Ceredigion) 

Mae Cynghorwyr yng Nghyngor Sir Ceredigion wedi cymryd rôl arweiniol i sefydlu timoedd cefnogi unigol mewn cydweithrediad â grwpiau ac unigolion lleol, gan gynnwys cynghorau tref a chymuned, Ffermwyr IfancSefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub.

Mae rhestr gynhwysfawr o’r holl grwpiau cefnogi sydd ar gael ar wefan Cyngor Sir Ceredigion: http://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/coronafeirws-covid-19/adnoddau/rhestr-o-adnoddau-yng-ngheredigion/ ynghyd â manylion y busnesau sydd wedi addasu i ddarparu gwasanaethau danfon, manylion o’r gefnogaeth sydd ar gael i’r rhai sy’n ddiamddiffyn neu’n gwarchod eu hunain, banciau bwyd, grantiau ac ati.

Mae rhai Cynghorwyr sy’n gwarchod eu hunain, yn ffonio aelodau diamddiffyn o’u cymunedau yn rheolaidd, mae eraill wedi darparu cymorth ymarferol, gydag un aelod, mewn cydweithrediad â’r RNLI lleol wedi bod yn danfon bwyd a meddyginiaeth i dros 90 o drigolion yn ardal Ceinewydd yn ddyddiol.  Maent hefyd wedi bod yn cysylltu â busnesau lleol yn eu wardiau er mwyn eu cyfeirio at gyngor, cymorth a grantiau sydd ar gael drwy’r cyngor. Maent hefyd wedi cymryd rôl arweiniol i annog llety twristiaid i gau cyn y cyfnod clo swyddogol.

Ar ddechrau'r cyfnod clo, gofynnodd y Cynghorwyr sut y gallent gynorthwyo’r gwasanaethau a ddarparwyd gan y Cyngor, a gwirfoddolodd 3 aelod gyda’r profiad priodol  i reoli canolfan gorffwys dros dro.  Darparwyd hyfforddiant gan gynnwys asesiad ar gyfer gyrru cerbydau gyriant 4 olwyn, fodd bynnag, rydym yn falch o gadarnhau nad oedd angen defnyddio’r cyfleuster.

Dydd Mercher, 5 Awst 2020 15:23:00 Categorïau: Ceredigion COVI9-19 COVID-19 (Cynghorwyr - Ymgysylltu) Llywodraethu

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30