Mae CLlLC heddiw wedi llongyfarch dysgwyr yn derbyn eu canlyniadau TGAU mewn blwyddyn eithriadol.
Cafodd arholiadau’r Haf eu canslo eleni o ganlyniad i’r argyfwng Coronafeirws, gyda cymwysterau yn cael eu gwobrwyo wedi eu seilio ar asesiadau athrawon.
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts (Sir y Fflint), Llefaryd CLlLC dros Addysg:
“Hoffwn longyfarch yr holl ddysgwyr sy’n derbyn eu canlyniadau heddiw am eu gwaith caled a’u dyfalbarhad. Bu’r flwyddyn hon yn bell o fod yn hawdd, a rydych chi wedi gorfod aberthu llawer. Heddiw, cymrwch gyfle i ymfalchïo yn eich ymdrechion a’ch llwyddiannau. Os na wnaethoch chi dderbyn y graddau yr oeddech chi’n eu disgwyl, cofiwch fod digonedd o gyngor a chefnogaeth ar gael ar Cymru’n Gweithio.
“Mae rhieni, athrawon, ffrindiau a staff ysgol ymhob cwr o Gymru i gyd yn rannau hanfodol o’r system addysg. Hoffwn ddiolch iddyn nhw i gyd am gefnogi’r dysgwyr eleni, y flwyddyn fwyaf heriol ac o dan amgylchiadau anodd dros ben.”
-DIWEDD-