“Rhaid i ni gofio’r mesurau sylfaenol”: Arweinwyr cyngor yn galw ar gymunedau i ddilyn rheolau COVID i atal cynnydd yng nghyfradd yr haint

Dydd Iau, 10 Medi 2020

 

Mae arweinwyr cyngor ymhob rhan o Gymru yn galw ar drigolion i ddilyn y mesurau angenrheidiol i gyfyngu ar y cynnydd mewn niferoedd o achosion COVID.

Cafodd cyfyngiadau lleol eu cyflwyno yn ardal Caerffili o 6pm ddydd Mawrth mewn ymateb i’r chwydd mewn achosion COVID, gydag ardaloedd eraill hefyd yn adrodd cynnydd mewn niferoedd.

I gyfyngu ar ledaeniad yr haint, mae’n hollbwysig ein bod ni yn:

  • cadw pellter cymdeithasol o 2m bob amser
  • golchi dwylo'n rheolaidd
  • aros y tu allan pan yn cwrdd ag aelodau cartref arall heblaw yr aelwyd estynedig

(Noder: fel rhan o’r cyfyngiadau lleol, mae trigolion Caerffili wedi eu cyfyngu rhag cwrdd â phobl o gartrefi eraill)

  • gweithio o gartref pan yn bosib

 

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf), Arweinydd CLlLC:

 

“Mae’r chwydd yn y nifer o achosion yng Nghymru yn destun pryder gwirioneddol ac yn peryglu’r cynnydd yr ydyn ni i gyd wedi cyfrannu tuag ato ers fis Mawrth o ganlyniad i’n ymdrechion ac ein aberth. Dyw Coronafeirws heb ein gadael ni ac mae’n rhaid i ni i gyd fod yn hynod ofalus.

 

“Mae cynghorau yn gweithio’n galed gyda phartneriaid i orfodi’r rheolau ac i olrhain cysylltiadau. Ond y man cychwyn i bawb yw i ymddwyn yn gall wrth ddilyn y rheolau yn y lle cyntaf. Nid yn aml mewn cyfnod o argyfwng mae gan bob un ohonom ni gyfle i helpu i roi diwedd arno. Ond mae’r cyfle hwnnw yno i ni i gyd heddiw. Mae’r gallu hynny yn nwylo pob un ohonom ni i atal ymlediad y feirws, i amddiffyn ein hunain ac ein gilydd, ac i gadw Cymru’n ddiogel.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE (Sir Ddinbych), Arweinydd Grŵp Annibynnol CLlLC:

 

“Os oes gennych chi unrhyw symptom yn cynnwys peswch newydd, parhaus, tymheredd uchel, neu golli neu newid yn eich synnwyr o arogl neu flas, mae’n hollbwysig eich bod chi’n hunan-ynysu ac yn cael prawf. Dim ond os ydych chi wedi datblygu un o’r symptomau yma y dylech chi gael eich profi.

 

“Mae rôl cynghorau yn parhau i fod yn allweddol yn olrhain cysylltiadau, cefnogi pobl fregus ac yn gwneud yn siŵr fod safleoedd yn cydymffurfio â’r rheolau i ddiogelu’r cyhoedd. Fodd bynnag, mae rhan gennym ni fel unigolion i’w chwarae i amddiffyn rhag effeithiau dinistriol y gall yr haint yma eu cael, nid yn unig ar ein hunain, ond hefyd ar eraill. Er lles pob cymuned yng Nghymru, mae’n rhaid i ni gymryd hynny o ddifri, yn ogystal â’r cyfrifoldeb i ddilyn y rheolau.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole (Sir Gaerfyrddin), Arweinydd Grŵp Plaid Cymru CLlLC:

 

“Yn drist iawn, rydyn ni wedi gweld achosion mewn sawl rhan o Gymru ble mae ymddygiad byrbwyll lleiafrif o bobl yn rhoi iechyd eu hunain ac eraill yn y fantol, ynghyd â’r aberth yr ydyn ni i gyd wedi ei wneud dros y misoedd anodd diwethaf.

 

“Dim ond ychydig fisoedd yn ôl, roedden ni i gyd yn dangos ein gwerthfawrogiad a diolch i’n gweithwyr allweddol; bu llawer yn cymeradwyo ar garreg yr aelwyd, eraill yn darlunio enfys i’w rhoi ar finiau, a phob cymuned yng Nghymru yn dilyn y rheolau. Rhaid i ni wneud hynny o hyd os ydyn ni am gefnogi ein gweithwyr allweddol a’n gwasanaeth iechyd dros y gaeaf anodd o’n blaenau.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Peter Fox OBE (Sir Fynwy), Arweinydd Grŵp Ceidwadwyr CLlLC:

 

“Gyda’n gilydd, fe wnaethon ni gynnydd ardderchog o fynd i’r afael â’r haint. Ond mae’r niferoedd o achosion mewn sawl man ar hyn o bryd yn destun gofid ac â’r peryg o achosi chwydd sylweddol yn  galw ar y gwasanaeth iechyd, a hynny ar ben y pwysau sy’n dod gyda’r gaeaf pob blwyddyn.

 

“Mae Coronafeirws yn parhau i fod yn fygythiad i ni i gyd, yn enwedig y rhai mwyaf bregus yn ein cymunedau. Os ydyn ni am gymryd gofal o iechyd ein hunain, ac ein teuluoedd, ffrindiau a chymdogion, rhaid i ni i gyd fod yn gyfrifol am sut ydyn ni’n ymddwyn. Mae pawb yng Nghymru yn hiraethu am weld amseroedd mwy arferol yn dychwelyd cyn gynted â phosib. Yr unig ffordd y gwnaiff hynny ddigwydd yw i ni i gyd lynnu at y canllawiau â’r cyngor iechyd cyhoeddus.”

 

-DIWEDD-

Categorïau: Newyddion

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30