Senedd

Y Senedd, a elwir yn ffurfiol yn Senedd Cymru ac a elwid gynt y Cynulliad Cenedlaethol, yw deddfwrfa Cymru a etholwyd yn ddemocrataidd. Mae’n cynnwys 60 o gynrychiolwyr, sef Aelodau’r Senedd.

Mae ganddo bedwar nod:

  • cynrychioli Cymru a’i phobl
  • gwneud deddfau i Gymru
  • cytuno ar drethi Cymreig
  • dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.

Mae’r aelodau yn ymgymryd â’u tasgau mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys mynychu trafodaethau'r Cyfarfod Llawn ac eistedd ar Bwyllgorau’r Senedd i drafod materion penodol. Mae etholiadau ar gyfer seddi yn y Senedd yn cael eu cynnal bob pum mlynedd.

Mae WLGA yn hyrwyddo’r egwyddor y dylai grym fod mor agos at y bobl ag y bo modd. Er y dylai’r hawl i benderfynu ar wasanaethau lleol gael ei datganoli i’r awdurdodau lleol, dylai fod pwerau gan Lywodraeth Cymru – trwy’r Senedd – i bennu fframwaith deddfwriaethol a strategol y wlad.

Mae’r rhan fwyaf o faterion sy’n effeithio ar bobl Cymru, ynghyd â’r rhan fwyaf o swyddogaethau a gwasanaethau llywodraeth leol, wedi’u datganoli i'r Senedd. Mae rhai’n perthyn i Lywodraeth San Steffan o hyd, fodd bynnag, gan gynnwys yr heddluoedd a threfn y budd-daliadau. Felly, mae’n bwysig i WLGA – yn rhinwedd ei rôl yn gynrychiolydd byd llywodraeth leol Cymru – geisio ymgysylltu mewn modd adeiladol a rhagweithredol â Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’r Swyddfa Gartref yn ogystal â Llywodraeth Cymru a’r Senedd. Mae’r CLlLC yn gweithio’n agos gyda’r CLlL ar gynrychioli buddiannau llywodraeth leol yn y Senedd a gyda Llywodraeth y DU.

Trwy WLGA mae byd llywodraeth leol yn ymwneud â’r Senedd a Llywodraeth Cymru fel y bydd modd cyfleu safbwynt unfrydol. Mae Strategaeth Corfforaethol a Chynllun Busnes Blynyddol WLGA yn ategu ei gwaith o ran hybu buddiannau’r awdurdodau lleol a hyrwyddo egwyddorion megis rhoi grym fod mor agos at y bobl ag y bo modd, ariannu cynghorau mewn modd teg a hyblyg ac ymrwymo i weithio ar y cyd.

Bydd WLGA yn cyflwyno tystiolaeth yn rheolaidd i ymchwiliadau pwyllgorau'r Senedd ar ran byd llywodraeth leol wrth archwilio deddfau newydd ac mae’n cydweithio ag aelodau’r Senedd mewn materion sy’n gyffredin. Ar ben hynny, bydd WLGA yn cwrdd â phrif lefarwyr cylchoedd gwleidyddol y Cynulliad i drin a thrafod blaenoriaethau llywodraeth leol.


 

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30