Arweinwyr cyngor yn diolch i weithlu “arwrol” llywodraeth leol

Dydd Gwener, 23 Hydref 2020

Bu arweinwyr cyngor heddiw yn canmol gwaith gweithlu llywodraeth leol yng Nghymru heddiw am eu cyfraniad aruthrol i’r ymateb i’r pandemig.

Yn siarad yng Nghyfarfod Blynyddol CLlLC, a’i gynhaliwyd yn rhithiol, canmolwyd cyfraniad “arwrol” y gweithlu cyngor yng Nghymru sydd yn parhau i chwarae rôl hollbwysig yn y frwydr yn erbyn Covid.

 

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf), Arweinydd CLlLC:

“Trwy gydol yr argyfwng yma, mae ein cynghorau wedi bod yn borthladd ar gyfer help a chyngor yn ystod cyfnod eithriadol o heriol i bawb. Ond ni fyddai’r gefnogaeth hynny wedi bod yn bosib heb waith diflino gweithwyr cyngor ymroddedig ar draws Cymru.

“Efallai nad ydi pobl wastad yn gweld eu gwaith, ond ni ellir anwybyddu effaith eu cyfraniad. O ofalu am bobl hŷn, darparu prydau ysgol am ddim i blant cymwys, cefnogi pobl fregus a chanfod lloches i bobl digartref, i ddarparu cefnogaeth ariannol ar frys i fusnesau a chael plant yn ôl i ysgolion, mae gweithlu llywodraeth leol wedi gweithredu ar garlam gwyllt i sicrhau bod neb yn ein cymunedau yn cael eu gadael ar ôl.”

“Hoffwn i a fy nghyd arweinwyr, fel aelodau etholedig a trigolion yn ein cymunedau, ddiolch yn ddiffuant iawn i bob un gweithiwr cyngor sydd yn cyfrannu i’r ymdrechion yma. Mae staff llywodraeth leol wedi eu gwreiddio yn eu cymunedau. Mae nhw ar dân dros wneud gwir wahaniaeth ym mywydau trigolion sydd wedi eu taflu i’r tywyllwch gan yr argyfwng hwn, heb eto weld terfyn. Ond mae gwaith allweddol gweithwyr cyngor, ynghyd â phartneriaid yn y sector iechyd a’r trydydd sector, yn parhau i fod yn lewyrch o olau a fydd yn ein helpu i’n tywys drwodd.”

-DIWEDD-

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30