CLILC

 

Ymateb CLlLC i gyhoeddiad cyllid COVID-19 Gweinidog y DU dros Gymunedau, Tai a Llywodraeth Leol

  • RSS
Dydd Sadwrn, 18 Ebrill 2020 Categorïau: Cyllid ac adnoddau Newyddion
Dydd Sadwrn, 18 Ebrill 2020

Yn ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth DU heddiw, dywedodd Arweinydd CLlLC y Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf):

“Mae cyhoeddiad Llywodraeth y DU heddiw yn cydnabod pwysigrwydd cynghorau ar draws y DU ac mae’r £95m o arian canlyniadol yn gyfraniad i’w groesawu yn y frwydr yn erbyn Coronavirus yng Nghymru. Dyw gwaith cynghorau dros yr wythnosau diwethaf wedi bod yn ddim llai na syfrdanol, gan gynnwys rôl ein gweithwyr gofal ardderchog yn lleddfu’r pwysau eithriadol sydd ar y GIG.

“Ond mae cynghorau yn wynebu costau ychwanegol aruthrol, colli incwm o £33m y mis a chynnydd enfawr yn y galw oherwydd yr argyfwng. Ni ddylai cynghorau orfod cyflwyno rhagor o doriadau i lenwi’r bwlch cyllidebol. Mae’n hollbwysig bod gwasanaethau lleol yn cael yr arian yma i barhau i amddiffyn ein gwasanaeth iechyd gwerthfawr.

“Cafodd llif arian cynghorau ei helpu’n arw gan benderfyniad Llywodraeth Cymru i dalu rhandaliadau cyllid craidd yn gynnar. Mae arweinwyr wedi gwerthfawrogi tarfod cyson gyda gweindogion Llywodraeth Cymru i gydlynu a rhannu pryderon, ac yn yr un modd yn edrych ymlaen i’r cyfle i drafod ddydd Llun gyda Gweinidog o Swyddfa Cymru.

“Rydyn ni’n falch bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod graddfa y pwyseddau y mae cynghorau yn eu wynebu ac ei bod wedi ymuno â chynghorau i alw ar Lywodraeth y DU i ddigolledu diffygion cyllidebol o fewn y flwyddyn, ac i adleisio’r alwad ar draws y DU am fwy o gyllid i lywodraeth leol gan Ganghellor y DU.”

 

-DIWEDD-

https://www.wlga.cymru/wlga-response-to-uk-gov-covid-19-funding-announcement