Ymateb CLlLC i’r setliad llywodraeth leol

Dydd Mercher, 20 Rhagfyr 2023

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd CLlLC:

“Roeddem ni’n gwybod y byddai hwn yn setliad heriol, ac yn cydnabod ymdrechion Llywodraeth Cymru wrth geisio amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen i raddau. Ond llwm yw’r rhagolwg i wasanaethau lleol o hyd sydd yn cael eu heffeithio’n ddifrifol gan gostau cynyddol. Er bod chwyddiant yn arafu, mae’n dal i olygu ein bod ni i gyd yn cael llai am ein harian nawr nag yn y gorffennol, ac mae hyn yn wir i gynghorau hefyd. Roedd cyfle gan Lywodraeth y DU i fynd i’r afael â’r bwlch cyllidol yma yn Natganiad yr Hydref, ond fe wnaethon nhw ddewis peidio ei gymryd. Golyga’r ffaith na chafwyd arian ychwanegol i ysgolion a gofal cymdeithasol na fydd arian canlyniadol yn llifo i Gymru. Bydd yn rhaid cymryd penderfyniadau anodd i sicrhau bod cynghorau yn cwrdd â’u dyletswydd cyfreithiol i osod cyllidebau cytbwys.”

“Rydym ni wedi croesawu perthynas glós, adeiladol gyda’r Gweinidog a’i chydweithwyr. Byddwn yn edrych ymlaen i gydweithio’n agos â hi a gweddill Llywodraeth Cymru i lywio trwy’r amseroedd cythryblus ar gyfer ein gwasanaethau lleol hanfodol ac i reoli’r effeithiau posibl ar ein cymunedau.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Llinos Medi, Arweinydd Grŵp Plaid Cymru:

“Gellir gweld yn glir, mewn cynnydd mewn galw am wasanaethau fel gofal cymdeithasol i oedolion, gwasanaethau plant, a thai, fod angen gwasanaethau lleol yn fwy nag erioed mewn argyfwng Costau Byw sydd yn effeithio’n wael ar ein cymunedau. Ond, er ein bod ni’n gwerthfawrogi’r amgylchiadau anodd i Lywodraeth Cymru, ni fydd y setliad yma’n gwneud llawer i leddfu’r pwysau ar wasanaethau. Mae’n siomedig nad oes cyllid ychwanegol wedi ei glustnodi i ariannu’r cynnydd mewn cyflogau i athrawon, sydd yn golygu y bydd disgwyl i gynghorau i gwrdd â’r gost o ymrwymiad ariannol sydd wedi ei wneud gan Lywodraeth Cymru ei hun.”

“Ers cychwyn y cynni ariannol, mae dros £1bn wedi ei golli o goffrau llywodraeth lleol. Mae cynghorau wedi gweithio’n ddygn i ganfod arbedion effeithlonrwydd a lleihau costau, ond mae’r arbedion rhwydd hynny wedi hen fynd. Does dim posib i lywodraeth leol barhau i wneud toriadau cyllidebol sylweddol heb effeithiau difrifol ar hyfywedd ein gwasanaethau ni.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Grŵp Annibynnol CLlLC:

“Ers tro, mae cynghorau wedi rhybuddio am y pwyseddau aruthrol sy’n eu wynebu wedi cyn gymaint o flynyddoedd o doriadau. Yn anffodus, dyw’r setliad heddiw ddim yn darparu digon o gyllid i gwrdd â phwyseddau costau a galw eithriadol fydd yn cyflwyno heriau difrifol y flwyddyn nesaf o ran gosod cyllidebau cytbwys, yn ôl y gofyniad cyfreithiol. Tra ei bod hi’n ymddangos bod 3.1% o hwb mewn cyllid craidd, mae toriadau dwfn i grantiau – a gyda dim arian ychwanegol i gwrdd â’r cynnydd mewn cyflog athrawon – yn golygu y bydd cynghorau mewn gwirionedd yn derbyn llawer yn llai na hyn.

“Dyw defnyddio arian ‘diwrnod glawog’ wrth gefn ddim yn ateb cynaliadwy i lenwi bylchau cyllidebol cynyddol a fydd yn dod i’r amlwg bfwyddyn ar ôl blwyddyn. Yr unig ateb i gwrdd â chostau a galw cynyddol ydi i lwyr gydnabod a chwrdd â’r pwyseddau cyllidebol i lywodraeth leol.”

Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Diprrwy Lywydd CLlLC (Democratiaid Rhyddfrydol):

“Mae trigolion, busnesau, a chymunedau ymhob rhan o Gymru yn dibynnu ar wasanaethau bara menyn sy’n cael ei darparu gan gynghorau. O ofal cymdeithasol i ddatblygu economaidd. Tai i ysgolion, mae’r rhain yn gonglfeini sy’n chwarae rhan allweddol yn ein bywydau pob dydd. Ond mae’r effaith o chwyddiant 10%, yr angen canlyniadol i gynyddu cyflogau staff i gwrdd â’r argyfwng costau byw, a chynnydd aruthrol mewn galw ar ofal cymdeithasol, wedi cyfuno i greu storm berffaith i gyllid ein cynghorau.

“Dros y blynyddoedd diwethaf, mae cynghorau wedi chwarae rôl hanfodol yn darparu ar uchelgeisiau llywodraethau DU a Chymru. Bydd hyn yn llawer yn anoddach i’w gyflawni os nad oes rhagor o gyllid ar gael i ni.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Llefarydd CLlLC dros Gyllid:

“Tra bod cyllid craidd wedi cael ei gynnal, mae cyllid grantiau eraill wedi disgyn mewn termau real. Dros y cyfnod ymgynghori, byddwn yn gweithio efo Llywodraeth Cymru ar y mater hwn a materion eraill yng nghyswllt cyflogau a phensiynau i athrawon, a chostau gofal cymdeithasol.

“Mae cynghorau yn wynebu diffyg cyllidol o £432m hyd yn oed wedi cynnydd mewn trethi cyngor a byddwn i gyd yn wynebu penderfyniadau tu hwnt o anodd. Yn ogystal â’r ddeialog barhaus gyda Llywodraeth Cymru, bydd yn rhaid i ni hefyd ymgysylltu â’n cymunedau ynglyn â’r penderfyniadau anodd sydd ar y gorwel.”

 

DIWEDD –

 

NODIADAU I OLYGYDDION

 

  1. Cyhoeddwyd setliad llywodraeth leol heddiw gan Lywodraeth Cymru. Gellir darllen datganiad y Gweinidog yma.
  2. Ynghlwm mae dogfen sy’n amlinellu ymhellach y pwyseddau sy’n wynebu gwasanethau lleol, a graddfa’r sefyllfa sydd ohoni.

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30