Lansio maniffesto CLlLC ar gyfer etholiadau Senedd 2021

Dydd Llun, 23 Tachwedd 2020

Heddiw, mae CLlLC yn lansio maniffesto beiddgar sydd yn gosod ei blaenoriaethau i ddarparu hyd yn oed yn fwy ar gyfer ein cymunedau lleol.

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yw’r corff sy’n cynrychioli’r 22 cyngor yng Nghymru, ac mae arweinwyr cyngor wedi gosod sut y gall y Llywodraeth Cymru nesaf a’r Senedd bweru awdurdodau lleol i adfywio ac ailadeiladu gwasanaethau cyhoeddus, cymunedau a’r economi wedi COVID-19.

Mae llywodraeth leol yn galw ar Senedd a Llywodraeth Cymru y dyfodol i fuddsoddi mewn gwasanaethau lleol, ymddiried mewn arweinyddiaeth leol ac i hybu atebion lleol i helpu i ddarparu blaenoriaethau cenedlaethol.

Byddai ffocws ar wasanaethau ataliol, gyda mwy o hyblygrwydd i ymateb i anghenion lleol, yn gallu pweru cynghorau i:

  • Hybu llesiant a chymunedau iachach, mwy cynaliadwy a bywiocach
  • Gwella deilliannau i blant a phobl ifanc a dysgwyr
  • Darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol cynaliadwy o safon i’r dyfodol
  • Creu tai o ansawdd a chymunedau mwy diogel i bobl weithio a byw ynddyn nhw, a
  • Chefnogi twf cynaliadwy, cynhwysol ac adferiad ‘gwyrdd’ wedi COVID

 

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf), Arweinydd CLlLC:

“Mae CLlLC wedi cyhoeddi ‘Maniffesto dros Leoliaeth’ ar gyfer etholiadau’r Senedd. Mae arweinwyr a chynghorwyr yn barod wedi helpu i siapio polisi pleidiau ac i ddylanwadu ar faniffestos eraill sy’n amlygu ar hyn o bryd, ond mae’r Maniffesto dros Leoliaeth yn atgyfnerthu ac yn crynhoi prif flaenoriaethau CLlLC ac yn hybu’r egwyddor o sybsidiaredd.”

“Ein cynghorau yw’r glud sy’n tynnu ein cymunedau at eu gilydd. Mae nhw’n gwneud gwaith eithriadol yn darparu tai a chefnogi teuluoedd, yn gofalu ac amddiffyn pobl fregus, yn addysgu ac yn sgilio’r gweithlu, ac yn edrych ar ôl ein hamgylchedd. Gyda’r rhyddid, hyblygrwydd a’r adnoddau angenrheidiol, gall cynghorau wneud hyd yn oed yn fwy i greu cymunedau ffyniannus a gwydn.”

“Eleni’n fwy nag erioed, rydyn ni wedi gweld llywodraeth leol ar ei orau. Trwy gydol yr ymateb i’r argyfwng, mae cymunedau wedi troi yn reddfol tuag at eu cynghorau am gyngor, cefnogaeth ac arweiniad. Bydd rôl cynghorau hyd yn oed yn fwy allweddol i helpu i ailadeiladu ein cymunedau sydd wedi cael eu taro’n galed gan yr argyfwng.”

-DIWEDD-

 

Cliciwch yma ar gyfer Senedd 2021: Maniffesto ar gyfer Lleoliaeth

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30