CLlLC yn llongyfarch dysgwyr ond yn galw ar y Gweinidog i weithredu’n fuan ar unrhyw bryderon neu anghysonderau unigol ynghylch Lefel A

Dydd Iau, 13 Awst 2020

 

Mae CLlLC wedi llongyfarch myfyrwyr Lefel A yng Nghymru ar eu llwyddiannau rhyfeddol dan amgylchiadau digynsail a heriol. Mae’r Gymdeithas wedi croesawu cadarnhad y Gweinidog Addysg na fydd graddau dysgwyr Cymru yn is na’u canlyniadau UG blaenorol ac y bydd proses apeliadau ar gael am ddim. Mae’r newidiadau hwyr i’r system gymwysterau ar draws y DU wedi bod yn gythryblus ac wedi achosi dryswch a phryder i ddysgwyr, rhieni a gwarcheidwaid. O ganlyniad, bydd ysgolion a chynghorau'n canolbwyntio heddiw a dros yr wythnosau nesaf ar les dysgwyr ac yn darparu cyngor, cefnogaeth a sicrwydd i’r nifer fawr o fyfyrwyr fydd wedi derbyn graddau is na’r disgwyl yn sgil hyn. Bydd CLlLC yn asesu’r canlyniadau heddiw pan ddaw’r darlun llawn yn gliriach. Yn y cyfamser, rydym yn galw ar y Gweinidog i weithredu’n brydlon i gywiro unrhyw bryderon neu anghysonderau lleol.

 

Dywedodd y Cyng Ian Roberts (Sir y Fflint), Llefarydd Addysg CLlLC:

 

“Rydym yn falch dros ein dysgwyr sydd wedi dangos ymrwymiad ac wedi gweithio’n galed am sawl blwyddyn ac a fydd yn derbyn eu canlyniadau lefel A heddiw. Maen nhw wedi dangos cadernid aruthrol dros y misoedd diwethaf heb fod ar fai am hyn o gwbl, ac nid ydynt wedi gallu cwblhau eu gwaith cwrs na sefyll arholiadau eleni. Mae hwn wedi bod yn gyfnod eithriadol o heriol i’n plant ysgol a’n dysgwyr ac er y bydd llawer o fyfyrwyr yn dathlu, bydd llawer yn siomedig nad ydynt wedi derbyn y graddau roedden nhw a’u hathrawon yn eu disgwyl.”  

 

“Mae hwn wedi bod yn gyfnod digynsail i bawb sy'n ymwneud ag addysg, i ddysgwyr, rhieni, ysgolion a staff addysgu ac i gynghorau a llywodraethau cenedlaethol. Er ei bod yn bwysig fod gan gyflogwyr a phrifysgolion hyder yn y system ganlyniadau, mae’n bwysicach fod gan ddysgwyr eu hunain hyder a’u bod yn teimlo fod eu hymdrechion a’u potensial wedi eu cydnabod yn deg yn eu cymwysterau.”

 

“Mae’r wythnos ddiwethaf wedi bod yn aruthrol o gythryblus i ddysgwyr ar draws y DU a bydd rhywfaint o bryder a dryswch yn parhau. Croesawn y sicrwydd ddoe gan y Gweinidog y bydd myfyrwyr yn derbyn graddau sydd yr un fath neu’n well na’u lefelau UG, fodd bynnag, bydd hyn yn dal i olygu y bydd angen adolygu'r canlyniadau y bydd rhai myfyrwyr yn eu derbyn heddiw a’u codi. Bydd llawer yn dal i fod yn is nac yr oeddent wedi ei ddisgwyl yn rhesymol yn seiliedig ar eu perfformiad mewn ffug arholiadau a gwelliannau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Rydym felly’n croesawu cadarnhad y Gweinidog y bydd proses apelio am ddim i bob myfyriwr.”  

 

“Mae lles dysgwyr bob amser yn hollbwysig i ysgolion a chynghorau, ac mae'n bwysicach nac erioed ein bod yn rhoi myfyrwyr wrth galon pob penderfyniad a wneir o fewn y system addysg yn ystod y cyfnod hwn.  Dyma oedd y negeseuon creiddiol y codais i a’r 22 aelod cabinet addysg gyda Chymwysterau Cymru, CBAC a Llywodraeth Cymru yn ystod cyfarfodydd niferus yn gynharach yn yr haf ynglŷn â chynlluniau ar gyfer dyfarnu Lefel A a TGAU. Mae’n bwysig felly ein bod yn dysgu gwersi o'r profiad hwn, a gyda’n phartneriaid ar draws y DU. Rydym yn arbennig o awyddus i sicrhau nad yw myfyrwyr Cymru dan anfantais mewn perthynas â myfyrwyr yng ngweddill y DU, yn arbennig wrth geisio am leoedd mewn prifysgolion, prentisiaethau neu am swyddi.”

 

-DIWEDD-

Categorïau: Newyddion

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30