Canolbwyntio ar Anghenion Dysgwyr ac Ymddiried yn yr Athrawon

Dydd Llun, 17 Awst 2020

Mae llywodraeth leol Cymru yn credu mai defnyddio asesiadau athrawon – Graddau a Asesir gan y Ganolfan – yw’r unig ddull teg o bennu graddau lefel A, lefel UG a TGAU eleni ac mae’n galw ar y Gweinidog Addysg i weithredu’r newid polisi hwn ar unwaith hyd yn oed os yw’n golygu oedi canlyniadau TGAU ddydd Iau. Dylid gweithredu’r dull hwn yn ôl-weithredol ac ar fyrder i bob gradd lefel ‘A’ ac UG.

 

Bellach fod y darlun llawn o ran canlyniadau lefel ‘A’ ac UG o amgylch Cymru’n gliriach, mae CLlLC yn credu fod y dull a fabwysiadwyd gan Gymwysterau Cymru - y rheoleiddwyr wrth bennu graddau lefel ‘A’ ac UG wedi bod yn fympwyol ac wedi canolbwyntio ar anghenion sefydliadau yn hytrach na dysgwyr unigol. Mae wedi creu dryswch a phryder ac wedi bod yn annheg. Nid yw wedi rhoi’r canlyniadau roedd dysgwyr unigol wedi eu disgwyl ac y byddent yn debyg o’u cyflawni pe baent wedi sefyll yr arholiadau. Mae angen i ni roi dysgwyr wrth galon y broses ac ymddiried yn y proffesiwn dysgu, gan nad oes neb yn adnabod y dysgwyr a'u perfformiad yn well na’u hathrawon.

 

Rhaid datrys y mater hwn ar fyrder er mwyn galluogi myfyrwyr lefel A o Gymru i gael gafael ar leoedd mewn prifysgolion cyn gynted â phosibl ac osgoi'r un sefyllfa rhag codi gyda chanlyniadau TGAU yn ddiweddarach yr wythnos hon.

 

Dywedodd y Cyng Ian Roberts, Llefarydd Addysg CLlLC:

 

“Mi wnes i â’r Arweinydd CLlLC gwrdd â’r Gweinidog Addysg fore dydd Iau, ac mi wnaethom dynnu sylw at anghysonderau a phryderon lleol a oedd yn dod i’r amlwg; yn amlwg, nid pryderon lleol yn unig yw’r rhain ond mae materion systematig ac rydym felly’n galw am adolygiad brys o raddau, ac y dylid dyfarnu canlyniadau TGAU ddydd Iau yn seiliedig ar Raddau a Asesir gan yn Ganolfan).”

 

“Mi wnes i, ac Aelodau Cabinet ar gyfer Addysg gwrdd â CBAC a Chymwysterau Cymru yn gynharach yn yr haf a chodom bryderon a cheisio sicrwydd ynghylch tegwch y system arfaethedig. Roedd gennym bryder penodol o ystyried mai rhan o’r dystiolaeth fyddai’n cael ei defnyddio oedd data a pherfformiad hanesyddol a fyddai’n ffafrio dysgwyr ac ysgolion lle'r oedd perfformiad cadarn, ond byddai'n dirywio canlyniadau ar gyfer dysgwyr unigol lle nad oedd perfformiad eu hysgolion yn dda yn y gorffennol. Byddwn yn bwydo ein barn yn ystod trafodaethau Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd a fydd yn cael ei ailymgynnull yfory.”

 

Mae CLlLC hefyd yn galw am adolygiad o Gymwysterau Cymru ac a yw’r sefydliad yn addas at y diben.

  

-Diwedd -

 

Categorïau: Dysgu gydol oes Newyddion

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30