Mwy o gefnogaeth gan wasanaethau lleol yn hanfodol i helpu gofalwyr rhag cael eu gwthio i’r pen

Dydd Mercher, 05 Rhagfyr 2018

Mae rhagor o fuddsoddiad mewn gwasanaethau lleol yn hanfodol i helpu gofalwyr di-dâl rhag cael eu gwthio i’r eithaf ynghanol chwyddiant enfawr yn y galw ar gyfer cefnogaeth a gwasanaethau gofal, yn ôl CLlLC heddiw.

Dengys arolwg gan Gofalwyr Cymru bod cynnydd yn y gal war gyfer gofal a chefnogaeth, ynghyd a chostau cynyddol o ran darparu gwasanaethau, yn rhoi mwy a mwy o bwysau ar deuluoedd i edrych ar ôl a gofalu am eu hanwyliaid a all gael effaith niweidiol ar eu iechyd a llesiant.

Ar draws Cymru, mae oddeutu 370,000 o ofalwyr di-dâl yn darparu cefnogaeth gwerth oddeutu £8.1 biliwn yn flynyddol. Mae llawer o ofalwyr yn ei chael hi’n anodd i gynnal eu hiechyd a’u llesiant eu hunain ac i gael mynediad i gymorth ymarferol a chefnogaeth sy’n allweddol i’w cefnogi nhw i reoli eu cyfrifoldebau gofalu, gan eu roi mewn risg cynyddol o fod angen gofal neu gefnogaeth eu hunain.

Mae’r ymatebion i Gofalwyr Cymru yn eu harolwg Cyflwr Gofalu, gellir gweld bod:

  • 76% o ofalwyr yng Nghymru wedi dioddef gyda chyflyrrau iechyd meddwl megis straen neu iselder ysbryd
  • 61% yn adrodd dirywiad yn eu iechyd corfforol o ganlyniad i’w rôl o ofalu
  • 46% o ofalwyr yn disgwyl y bydd eu safon byw yn dirywio o fewn y 12 mis nesaf

Yn ogystal, mae dros draean o ofalwyr (34%) yn adrodd eu bod yn ei ‘chael hi’n anodd i gadw dau ben llinyn ynghyd’, gyda llawer o ofalwyr yn gorfod torri nôl ar ddiddordebau, gweithgareddau hamdden a gweld eu teulu a’u ffrindiau.

Mae gofalwyr yn cydnabod effaith y cynni ar gynghorau, gyda dros chwarter (27%) o ofalwyr yn adnabod eu bod nhw’n bryderus y gall y gefnogaeth mae nhw’n ei dderbyn ar hyn o bryd gael ei ostwng, gyda 65% yn dweud nad ydyn nhw’n gwybod beth all ddigwydd heb y gefnogaeth y maent yn ei dderbyn ar hyn o bryd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Huw David (Penybont ar Ogwr), Llefarydd CLlLC dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Mae llywodraeth leol yn darparu mwy na 700 o wasanaethau lleol, gyda chyfran sylweddol o’r rheiny yn helpu i wella llesiant ac i daclo ffactorau cymdeithasol sy’n effeithio ar iechyd. Mae’r rhain yn cynnwys tai, cyflogaeth, llesiant, hamdden a thrafnidiaeth, ac mae’r rhain yn helpu i gefnogi iechyd a llesiant gofalwyr. Fodd bynnag, dros yr wyth mlynedd diwethaf, mae cyllid craidd cynghorau gan Lywodraeth Cymru wedi lleihau 22%, sydd yn anochel wedi effeithio ar argaeledd gwasanaethau lleol.”

“Os nad yw gofalwyr yn cael eu cefnogi’n addas, gall arwain at fwy o ynysu cymdeithasol ac ychwanegu at bwyseddau ar gyllid ein gofalwyr, a’u hiechyd a’u llesiant yn ogystal. Mae’n glir bod yn rhaid i ni wneud mwy i daclo’r anghydraddoldebau sy’n cael eu profi gan ofalwyr, tra’n cefnogi yr holl boblogaeth gyda’u anghenion iechyd a gofal cymdeithasol.”

“Mae achos clir yma am yr angen i fuddsoddi mewn gwasanaethau ataliol ac ymyrraeth gynnar sydd o fudd i ofalwyr. Rydyn ni’n croesawu’r cyhoeddiad heddiw y bydd £15m o’r £30m, a ddarparwyd i’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn y gyllideb ddrafft, yn cael ei dargedu ar gyfer gofalwyr â’r rhai ag anghenion gofal a chefnogaeth. Mae’n hollbwysig bod mwy o fuddsoddiad yn cyrraedd gwasanaethau lleol, sy’n helpu i’w galluogi i ddarparu y gefnogaeth sydd ei hangen ar ein gwasanaethau – llawer ohonyn nhw yn cefnogi y rhai hynny sy’n darparu gofal di-dâl.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Susan Elsmore (Caerdydd), Dirprwy Lefarydd CLlLC dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Y gwirionedd yw, heb ofalwyr, bydd annibyniaeth a safon byw llawer o bobl yn cael ei ddirywio a’r baich ar ein gwasanaethau cymdeithasol a’r GIG yn cynyddu fwyfwy. Does dim llawer o swyddi neu rolau sydd yn fwy pwysig.

“Mae gallu cynghorau i ddarparu’r gwasanaethau allweddol a’r gefnogaeth sydd yn angenrheidiol i ofalwyr yn cael ei danseilio gan y toriadau parhaus i gyllidebau cyngor. Tra y mae llywodraeth leol wedi cadw draw canlyniadau gwaethaf y cynni, mae ei effaith yn dal i fyny gyda ein cynghorau, gan fygwth gwasanaethau sydd yn gwella bywydau pobl a’u cymunedau, gan gynnwys gwasanaethau sy’n hanfodol i gefnogi gofalwyr.

“Rydyn ni’n deall hyn yn llwyr a, thrwy weithio gyda’n gilydd gyda sefydliadau partner gan gynnwys iechyd, Llywodraeth Cymru a Gofalwyr Cymru, mae angen i ni sicrhau ein bod yn adnabod y cyfleon ac adnoddau ariannol – gan gofio’r cyfraniad o £15m gan Lywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar – ar gyfer llywodraeth leol, er mwyn i’n galluogi i wneud yn siŵr bod gofalwyr yn cael y gydnabyddiaeth a’r gefnogaeth y mae nhw’n ei haeddu.”

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30