Datganiad WLGA: Adnoddau ychwanegol i Gynghorau

Dydd Mercher, 21 Tachwedd 2018

Mae'r cyhoeddiad ynghylch adnoddau ychwanegol ar gyfer gwasanaethau lleol ar draws Cymru yn dilyn trafodaethau cynhyrchiol dros y mis diwethaf rhwng Llywodraeth Cymru ac WLGA. Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i roi cynghorau ar “flaen y ciw” ar gyfer dosbarthu'r arian sy'n deillio o gyllideb y Canghellor. Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos gydag arweinwyr cynghorau i fynd i'r afael â'r pwysau mwyaf sylweddol ar wasanaethau. Codwyd y cyllid gwaelodol o-1% i-0.5% ac ar ben hyn mae £13m ychwanegol wedi'i ddarparu i gymryd cyfartaledd Cymru i setliad arian gwastad, sy'n golygu y bydd mwy o arian ar gyfer gwasanaethau craidd fel addysg a gofal cymdeithasol.  

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox, arweinydd WLGA:

"Mae WLGA yn cefnogi’r pecyn ariannol a gyhoeddwyd heddiw a chaiff ei drafod yn llawn yn ein cyfarfod Cyngor ar 30ain Tachwedd 2018. Mae'n arwydd o gynnydd arwyddocaol yn ein trafodaethau parhaus cyn i gyllideb Llywodraeth Cymru gael ei rhoi yn ei ffurf derfynol cyn y Nadolig. Mae'n dangos ymdrech ar y cyd i wrthbwyso effaith cyni yng Nghymru. Yn anffodus, er gwaethaf rhethreg San Steffan, mae'r athroniaeth aflwyddiannus hon ymhell o gyrraedd ei nod. Felly, nid yw hyn yn golygu bydd modd osgoi toriadau a chodiadau i dreth y cyngor am nad yw achosion o gynyddu cyllid yn ateb y pwysau a chostau gwasanaethau allweddol mewn perthynas â chyflogau, chwyddiant na demograffeg. "

"Er gwaethaf y cyhoeddiad hwn a groesewir, does dim amheuaeth bod hwn yn dal i fod yn setliad ariannol hynod heriol ar ôl 8 mlynedd o gyni. Yn arbennig, mae pwysau’n parhau o ran ysgolion a chyflogau athrawon ac mae cost aruthrol am bensiynau heb ei datrys o hyd. Mae Llywodraeth Cymru ac WLGA yn ysgrifennu ar y cyd at San Steffan er mwyn pwyso am i hyn gael ei ariannu'n llawn gan y Trysorlys. "

"Edrychwn ymlaen at barhau i drafod mewn modd adeiladol gyda Llywodraeth Cymru er mwyn mynd i'r afael â'r materion hyn a dechrau adnabod a chytuno ar y pwysau anferth sydd ar y gorwel i wasanaethau ac wrth osod cyllideb y flwyddyn nesaf. Y pwynt allweddol i’w bwysleisio, fodd bynnag, yw bod ein cynghorau, drwy weithio gyda Llywodraeth Cymru, wedi ceisio lleiafu ergyd y toriadau ac amddiffyn gwasanaethau rheng flaen gwerthfawr lle bynnag y bo modd”. 

Mae manylion yn hyn o beth wedi'u nodi ar gyfer y blynyddoedd ariannol canlynol:

Yn 2018-19:

  • Pecyn refeniw a chyfalaf untro o hyd at £6m i helpu i dalu'r costau trwsio a chyweirio sy'n gysylltiedig â Storm Callum;
  • £4m o refeniw ychwanegol i ateb pwysau gofal cymdeithasol yn 2018-19. Mae hyn yn dod â'r cyllid ychwanegol ar gyfer pwysau gofal cymdeithasol i £14m yr hydref hwn – sef cyfanswm y cyllid canlyniadol o'r cyllid gofal cymdeithasol "brys" a gyhoeddwyd ar gyfer Lloegr yng Nghyllideb Hydref y DU;
  • £7.5m o refeniw i helpu awdurdodau lleol i ateb y pwysau cost sy'n gysylltiedig â gweithredu'r dyfarniad cyflog i athrawon; a
  • £50m o gyfalaf ychwanegol ar gyfer cronfa gyfalaf gyffredinol awdurdodau lleol – dyma randaliad cyntaf cynnydd o £100m dros dair blynedd i'r gronfa gyfalaf gyffredinol.

Yn 2019-20:

  • £13m ychwanegol yn y grant cynnal refeniw i roi setliad arian gwastad i lywodraeth leol;
  • £1.2m i godi'r cyllid gwaelodol fel nad yw’r un awdurdod lleol yn wynebu gostyngiad o fwy na 0.5%;
  • £7.5m pellach i helpu awdurdodau lleol i ateb y pwysau cost sy'n gysylltiedig â gweithredu'r dyfarniad cyflog i athrawon;
  • Dyrannu cyfanswm y cyllid canlyniadol o £2.3m o Gyllideb Hydref y DU ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol i blant - i helpu i atal cymryd plant i ofal; a
  • £30m o gyfalaf ychwanegol ar gyfer cronfa gyfalaf gyffredinol awdurdodau lleol – dyma ail randaliad cynnydd o £100m dros dair blynedd i'r gronfa gyfalaf gyffredinol.

Yn 2020-21:

  • £20m o gyfalaf ychwanegol ar gyfer cronfa gyfalaf gyffredinol awdurdodau lleol – dyma drydydd rhandaliad cynnydd o £100m dros dair blynedd i'r gronfa cyfalaf cyffredinol.

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30