Llywodraeth leol yn arwyddo i Siarter i helpu i symleiddio’r system fudd-daliadau yng Nghymru

Dydd Llun, 22 Ionawr 2024

Mae siarter yn cael ei lansio heddiw i helpu i wella hygyrchedd y system fudd-daliadau ac i hybu trigolion cymwys i hawlio cefnogaeth hollbwysig.

Cyd-ddyluniwyd Siarter Budd-daliadau Cymru gan ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys CLlLC ac awdurdodau lleol, gyda ffocws cyffredin ar gefnogi’r rhai mwyaf difreintiedig yn ein cymunedau.

Mae CLlLC a phob awdurdod lleol i gyd wedi arwyddo’r Siarter, gan gytuno i weithio gyda Llywodraeth Cymru i weithredu i ddatblygu cyfundrefn fudd-daliadau cyson sy’n gweithio i bobl Cymru.

 

Dyweoddd y Cynghorydd Anthony Hunt (Torfaen), Llefarydd CLlLC dros Gyllid:

“Nawr yn fwy nag erioed, wrth i’n cymunedau barhau i deimlo gwasgfa’r argyfwng Costau Byw, mae’n hanfodol bod trigolion cymwys yn gallu cael mynediad a hawlio pob cefnogaeth posib. Gan weithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid, mae’r Siarter yma’n rhan o’r broses barhaus o ddylunio a darparu cyfundrefn fudd-daliadau gynhwysol sy’n gweithio i’n trigolion.

“Rydyn ni’n annog trigolion i wirio pa gymorth y gallent fod yn gymwys i'w dderbyn. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan eich awdurdod lleol.”

DIWEDD -

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30