“Hollbwysig” bod arian canlyniadol yn cael ei ddarparu i gynghorau Cymru yn llawn

Dydd Mercher, 24 Ionawr 2024

Yn ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth y DU am gyllid ychwanegol i gynghorau yn Lloegr, dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt (Torfaen), Llefarydd CLlLC dros Gyllid:

 

“Mae’r cyhoeddiad heddiw y bydd cynghorau yn Lloegr yn derbyn £600m yn ychwanegol yn profi ni ellir mwyach anwybyddu’r argyfwng ariannu llywodraeth leol. Rydyn ni’n croesawu’r ffaith y bydd y rhan fwyaf o’r cyllid yma yn cael ei dargedu at ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol allweddol i’r rhai mwyaf bregus”

 

“Mae’n hollbwysig nawr fod yr arian canlyniadol sy’n deillio o’r cyhoeddiad heddiw yn cael ei basio ymlaen yn llawn i gynghorau Cymru i helpu ein gwasanaethau gofal cymdeithasol ac i gyllido ein ysgolion.”

 

DIWEDD -

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30