Heddiw mae CLlLC wedi llongyfarch disgyblion ar hyd a lled y wlad sy’n derbyn eu canlyniadau TGAU, a hynny ar ôl blwyddyn anodd arall i ddysgwyr.
Meddai’r Cyng. Ian Roberts (Sir y Fflint), Llefarydd Addysg CLlLC: “Mae dyfalbarhad y disgyblion ar ôl blwyddyn galed arall wedi talu ar ei ganfed heddiw, a hoffaf longyfarch bob un am eu llwyddiant a’u gwaith caled.
“Mae teuluoedd, athrawon a staff ysgol oll wedi cyfrannu at gefnogi disgyblion yn ystod y cyfnod anodd hwn. Fe ddylen nhw hefyd ymfalchïo yn eu llwyddiant, a diolchaf iddyn nhw am eu gwaith caled.”