Cynghorau yn ymrwymo i chwarae eu rhan yn yr ymdrechion i ailsefydlu ffoaduriaid Affganistan

Dydd Llun, 23 Awst 2021

Mae llywodraeth leol yng Nghymru wedi ei arswydo i dystio’r digwyddiadau yn Affganistan ac wedi adnewyddu’r addewid i gefnogi Llywodraeth y DU i ail-leoli staff wedi’i cyflogi’n lleol o’r rhanbarth.

Cyfarfu arweinwyr ar frys gyda Gweinidogion wythnos diwethaf, gyda deialog yn dilyn ymysg swyddogion a thrafodaethau o fewn cynghorau. Mae cynghorau yn barod i dderbyn ffoaduriaid fel rhan o’r rhaglen a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog.

Bydd pob cyngor yn chwarae rhan yn darparu llety a lloches i’r rhai hynny sy’n gallu gadael y wlad. Mae pob awdurdod yn asesu eu gallu yn barhaus i gartrefu a darparu’r gefnogaeth holistig sydd ei angen i gwrdd a’u anghenion.

 

Dywedodd Arweinydd CLlLC, y Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf):

“Ni all unrhyw un amau y golygfeydd brawychus yr ydyn ni’n eu tystio mewn adroddiadau dyddiol o Affganistan. Mae holl gynghorau Cymru wedi ymrwymo i wneud popeth posib yn yr ymdrechion parhaus i roi lloches i’r bobl sy’n ffoi o’r wlad yn ofni am eu bywydau.

“Bydd pob cyngor yn parhau i asesu eu gallu i gartrefu a chwrdd â holl anghenion y rhai sy’n chwilio am loches tra’n parhau i gwrdd ag anghenion a phwyseddau lleol. Caiff hyn ei wneud mewn partneriaeth gyda sefydliadau lleol a chenedlaethol – gan gynnwys y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru, y trydydd sector, iechyd a tai – i sicrhau bod yr holl ffoaduriaid sy’n cael eu hailgartrefu yn derbyn y gefnogaeth angenrheidiol a phriodol.

“Fel Cenedl Noddfa, mae gan gymunedai ledled Cymru hanes hir a balch o groesawu’r rhai sydd angen noddfa ddiogel. Rwy’n hyderus y bydd y pobl yma’n cael eu croesawu gyda’r un caredigrwydd a haelioni wrth iddyn nhw edrych i ailadeiladu eu bywydau yn dilyn trawma annirnadwy.”

 

-DIWEDD-

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30