Heddiw, mae llywodraeth leol yn croesawu setliad ariannol cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru ar ddiwedd blwyddyn eithriadol.
Bydd cynghorau yn gweld cynnydd cyfartalog o 3.8% i’w refeniw craidd yn 2021-22, yn cynrychioli hwb £172m o’i gymharu a’r llynedd.
Caiff y setliad dros dro nawr ei agor i ymgynghoriad am gyfnod o saith wythnos a fydd yn dod i ben ar 9 Chwefror 2021, cyn i Lywodraeth Cymru osod ei chyllideb terfynol.
Dywedodd Arweinydd CLlLC, y Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf):
“Dyma setliad i’w groesawu gan ei fod yn darparu buddsoddiad mewn gwasanaethau lleol ac yn rhoi peth sicrwydd i gynghorau mewn cyfnod ansicr. Mae hi wedi bod yn flwyddyn galed dros ben i ni i gyd. Mae cynghorau a Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n eithriadol o agos i gefnogi ac amddiffyn ein cymunedau. Mae’r gefnogaeth ariannol a roddwyd i gynghorau gan Lywodraeth Cymru i ymateb i’r argyfwng wedi bod yn amhrisiadwy yn ystod y flwyddyn ariannol hon ond bydd effeithiau’r argyfwng a phwyseddau sector parhaus yn cael eu teimlo am beth amser.”
Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt (Torfaen), Llefarydd CLlLC dros Gyllid ac Adnoddau:
“Adeilada’r cyhoeddiad heddiw ar setliad cadarnhaol y llynedd a bydd yn helpu i wella deilliannau addysg ac i gefnogi’r rhai mwyaf bregus yn ein cymunedau a sicrhau eu bod yn derbyn y gofal mae nhw’n ei haeddu. Mae’n adlewyrchu cyfnod o ymgysylltu cyson, cadarnhaol gyda Gweinidogion dros y flwyddyn a fu ac yn cydnabod y rhan y mae cynghorau wedi bod yn ei chwarae dros y pandemig a pha mor bwysig y bydd ein gwasanaethau cyngor i adfer. Mae’r setliad i’w groesawu ond byddwn yn parhau i wneud yr achos dros gyllid gwaelodol yn ein trafodaethau gyda Gweinidogion.”
“Mae ein staff wedi bod ar flaen yr ymateb i’r argyfwng p’un a’i bod nhw’n gweithio ar y rheng flaen fel gofalwyr neu mewn swyddogaethau corfforaethol fel cyllid, yn darparu cefnogaeth cyllidol ar fyrder i filoedd o fusnesau. Mae eu gwaith wedi bod yn rhagorol ac mae arnom ni i gyd ddyled o ddiolch iddyn nhw.”
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE (Sir Ddinbych), Arweinydd Grŵp Annibynnol CLlLC:
“Mae awdurdodau lleol wedi chwarae rhan hollbwysig yn yr ymateb i’r argyfwng eleni. Er y bydd y setliad yn cael ei groesawu gan lawer o awdurdodau, mae heriau gwasanaeth cyhoeddus a chyllidebol yn parhau, yn enwedig i’r awdurdodau hynny a fydd yn derbyn cynnydd is na’r cyfartaledd. Am y rheswm hynny, mae angen cyllid gwaelodol arnom ni i amddiffyn yr awdurdodau hynny. Gyda’r cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU o Gyllideb ym mis Mawrth, byddwn yn parhau i wneud yr achos dros gyllidebau aml-flwyddyn i’n galluogi ni i gynllunio gyda mwy o sicrwydd.”
Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole (Sir Gaerfyrddin), Arweinydd Grŵp Plaid Cymru CLlLC:
“Tra’r ydw i yn croesawu setliad cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru ac ymgysylltu cyson gyda Gweinidogion, yn enwedig yn ystod y flwyddyn heriol hon, ni fydd y cyllid a gyhoeddwyd yn cwrdd â’r pwyseddau a wynebir gan holl gynghorau Cymru. Er ein bod ni’n parhau i fod yng ngafael yr argyfwng, fe fydd un diwrnod yn cilio a rydyn ni eisiau sicrhau y bydd ein gwasanaethau ni yn parhau i fod yno i’n cymunedau ni mewn byd wedi Covid.”
Dywedodd y Cynghorydd Peter Fox OBE (Sir Fynwy), Arweinydd Grŵp Ceidwadol CLlLC:
“Rwy’n falch bod rôl llywodraeth leol dros y flwyddyn neilltuol hon wedi cael ei chydnabod gan Lywodraeth Cymru. Mae wedi bod ac mi fydd arian canlyniadol sylweddol yn llifo o gyhoeddiadau cyllid Llywodraeth y DU, gyda chyfran ohono eto i’w ddyrannu o fewn cyllideb Llywodraeth Cymru. Mae’n allweddol bod y pwyseddau gwirioneddol mewn llywodraeth leol yn cael eu datrys a byddwn ni’n parhau i wneud yr achos hwn i Weinidogion yn yr wythnosau i ddod.”
-DIWEDD –
Nodiadau i Olygyddion
Wele yma Ddatganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog dros Dai a Llywodraeth Leol: https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-setliad-dros-dro-llywodraeth-leol-2021-22