CLILC

 

Posts in Category: COVI9-19

  • RSS
  • Add To My MSN
  • Add To Windows Live
  • Add To My Yahoo
  • Add To Google

Categorïau

Well-Fed – o ddarparu prydau maethlon mewn cartrefi gofal i focys bwyd mewn argyfwng (CS Fflint)  

Mae Well-fed yn bartneriaeth rhwng Cyngor Sir y FflintClwyd Alyn a Can Cook – cwmni bwyd sy’n ymroi i fwydo pawb yn dda. Ers argyfwng Covid-19, mae Well-fed wedi addasu ei weithrediadau o gyflenwi prydau parod maethlon i gartrefi gofal i ymateb i’r galw anhygoel i ddarparu bwyd ar frys yn y sir. Ochr yn ochr â phrydau parod maethlon, mae’r Cyngor wedi bod yn cyflenwi bagiau popty araf a ‘Bocsys Diogelwch Well-fed’ oedd yn ychwanegiad i focsys Cysgodi Llywodraeth Cymru. Cafodd y blychau diogelwch ‘saith niwrnod’ eu darparu i’r bobl oedd yn cael eu hystyried yn ddiamddiffyn, yn cysgodi am resymau iechyd a’r rhai oedd angen cymorth â bwyd am resymau ariannol, ac yn cynnwys detholiad o brydau barod, prif fwydydd a nwyddau ymolchi.  

Covid-19 Datgloi Arwyddion (CS Benfro)  

Mae Cyngor Sir Benfro wedi datblygu amrywiaeth o ‘Arwyddion datgloi COVID-19’ sydd ar gael i’w lawrlwytho o wefan y Cyngor. Mae’r Cyngor wedi creu’r arwyddion sydd yn ymdrin â themâu megis hylendid, cadw pellter cymdeithasol a gorchuddion wyneb yn rhan o ymgyrch ehangach i sicrhau diogelwch y gymuned wrth i gyfyngiadau gael eu llacio. Mae’r arwyddion dwyieithog wedi bod yn adnodd poblogaidd ar gyfer busnesau lleol yn y sir.  

Gwasanaeth Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru (CBS Wrecsam, CS Ddinbych a CS Y Fflint)  

Mae cynghorau WrecsamSir Ddinbych a Sir Y Fflint wedi gweithio mewn partneriaeth i ddarparu Gwasanaeth Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol i Ogledd Ddwyrain Cymru. Mae’r gwasanaeth yn cefnogi oddeutu 40 o grwpiau cymunedol a sefydliadau trydydd sector sydd yn eu tro yn cynnig cefnogaeth weithgar i gymunedau lleiafrifol. 

Ers Mawrth 2020, mae’r Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol wedi parhau i gefnogi cymunedau ond fel gyda’r rhan fwyaf o wasanaethau mae’r ffocws wedi mynd i’r afael â’r heriau sy’n ein hwynebu yn sgil COVID19.  Mae cyfanswm o tua £20,000 wedi cael ei wobrwyo mewn grantiau i gefnogi cynlluniau penodol fel: 

  • darparu parseli bwyd, cyfarpar diogelu personol a chefnogaeth ar-lein;  

  • pecynnau gwybodaeth wedi’u cyfieithu; 

  • gweithgareddau cadw pellter cymdeithasol yn ystod gwyliau’r haf;  

  • cefnogaeth mewn perthynas â thrais domestig a chamddefnyddio sylweddau yn ystod Covid-19; 

  • cyfleoedd gwirfoddoli ac ymrwymo’r gymuned ar ôl Covid-19; a 

  • chefnogi’r Gymuned Teithwyr lleol yn ystod Covid-19 gyda chefnogaeth addysg o bell.  

Dydi Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol ddim yn gorffwys ar ei bri. Mae’n sefyll ar banel cronfeydd argyfwng Covid-19 Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ac yn gweithio gyda CMGW a phartneriaid allweddol i adnabod a sicrhau cronfeydd mawr a mwy cynaliadwy i gefnogi cymunedau lleiafrifol ac unigolion gyda nodweddion rhagamcanol. 

Datblygu’r system clicio a chasglu ar gyfer llyfrau llyfrgell (CS Powys)  

Dydd Gwener, 11 Rhagfyr 2020 12:51:00 Categorïau: COVI9-19 COVID-19 (Llyfrgelloedd - Digidol) Hamdden a Diwylliant Powys

Nid oedd llyfrgelloedd Cyngor Sir Powys yn gallu parhau gyda’r cyfleuster archebu llyfrau trwy Gatalog y Llyfrgell yn ystod y pandemig.  A different system was urgently needed to allow customers to request ‘book collections’ to be picked up from selected libraries or delivered to their door, the council came up with the Library Order and Collect ServiceRoedd angen system wahanol ar unwaith i alluogi cwsmeriaid i wneud cais i ‘gasglu llyfrau’ o lyfrgelloedd penodol neu eu cludo at eu drws, mae’r cyngor wedi dod i fyny gyda’r system Gwasanaeth Archebu a Chasglu Llyfrgell.

The council worked with the Library Service to develop a customer centred process which involves a customer facing web form triggering automatic workflow and emails to appropriate library locations. Mae’r cyngor wedi gweithio gyda’r Gwasanaeth Llyfrgelloedd i ddatblygu proses sy’n canolbwyntio ar y cwsmer ac sy’n cynnwys ffurflen sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r cwsmeriaid gan sbarduno llif gwaith ac e-byst yn awtomatig i’r llyfrgelloedd priodol. Mae’r cyngor hefyd wedi datblygu rhyngwyneb gweinyddol lle gall staff Llyfrgelloedd weld y ceisiadau a dewis dyddiad pan fydd y llyfrau ar gael i’w casglu. Mae’r weithred yn sbarduno’r system i anfon neges e-bost at y cwsmer yn awtomatig i’w hysbysu nhw. Yna ma staff y llyfrgell yn dod â chasgliad o lyfrau ynghyd sy’n ateb gofynion y cwsmeriaid ac yn eu gadael yn barod i’w casglu ar y dyddiad a gynghorwyd.  

Mae yna hefyd fersiwn ‘gwasanaeth a gynorthwyir’ o’r uchod wedi’i ddatblygu i gwsmeriaid a fyddai’n well ganddynt gyfathrebu dros y ffôn. Mae’n defnyddio’r un broses o ddefnyddio ffurflenni fel y fersiwn hunan-wasanaeth ond gyda’r holl gyfathrebu yn cael ei wneud dros y ffôn.  

System parseli bwyd a galwadau lles ar y we (CS Powys)  

The Web Team at Powys County Council developed a web-based system in response to assessing whether eligible people were in need of regular food parcel deliveries, monitoring the wellbeing of vulnerable residents on a weekly or fortnightly basis and responding to needs for support from Powys Social Care or Community Connectors volunteers.

Mae Tîm y We Cyngor Sir Powys wedi datblygu system ar y we sy’n ymateb i’r broses o asesu os oes angen parseli bwyd yn rheolaidd ar bobl cymwys, monitro lles preswylwyr diamddiffyn yn wythnosol neu bob pythefnos ac ymateb i’r angen am gefnogaeth gan Ofal Cymdeithasol Powys neu wirfoddolwyr Cysylltwr Cymunedol 

The system used ‘shielding people’ data and other internal ‘vulnerable individual’ data, which the council stored in a database.

Mae’r system yn defnyddio data ‘pobl yn gwarchod’ a data ‘unigolion diamddiffyn’ mewnol sydd mewn cronfa ddata gan y cyngor.

Trwy glicio ar enw o’r rhestr mae ffurflen ar y we yn agor i bobl sy’n delio gyda chwsmeriaid ar y ffôn i gofnodi eu hatebion i gwestiynau sydd ar sgript a gytunwyd arni. Mae’r cyngor wedi datblygu sbardunau awtomatig i anfon e-byst at Ofal Cymdeithasol i Oedolion neu Gysylltwyr Cymunedol neu lunio cais am barsel bwyd (os yn gymwys) yn seiliedig ar atebion y cwsmer i’r cwestiynau a natur y cymorth sydd ei angen.  

 

Rhwng 3 Ebrill a 14 Awst, mae cyfanswm o 23,791 o alwadau wedi’u gwneud gan staff Cyngor Sir Powys gan arwain at 

  • 649 o barseli bwyd Llywodraeth Cymru wedi’u harchebu 

  • 438 o geisiadau i gynghorydd sir leol gysylltu’n ôl â’r preswylydd  

  • 459 o ymholiadau am help gydag anghenion gofal sylfaenol wedi’u pasio ymlaen i ASSIST 

  • 1,654 o atgyfeiriadau i Wasanaeth Cysylltwyr Cymunedol Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (o’r rhain roedd 1,076 eisiau cymorth gyda bwyd, 373 eisiau cymorth gyda’u presgripsiynau a 205 yn dymuno siarad gyda gwirfoddolwr) 

  • 150 o atgyfeiriadau yn ymwneud â diogelu.  

Hub Llesiant y Gaeaf (CS Ceredigion)  

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi creu Hwb Llesiant Gaeaf ar-lein newydd i gefnogi trigolion Ceredigion dros fisoedd hydref a gaeaf. 

Nid yw gweithgareddau a digwyddiadau y byddem fel afer yn eu gweld yn ystod yr adeg hon o’r flwyddyn yn bosib mwyach oherwydd y pandemig. Felly, mae’r hwb yn darparu amrywiaeth o weithgareddau ar-lein sydd yn gynnwys gwybodaeth a fideos ar ystod o bynciau megis y gefnogaeth sydd ar gael, iechyd a lles, pobl ifanc a dysgu. 

Mae Lles y Gaeaf yn unol â Strategaeth Gaeaf y Cyngor, i amddiffyn iechyd a lles ein rhai mwyaf agored i niwed, gan gynnwys gwasanaethau gofal i’r henoed a’r rhai y mae eu cyflyrau meddygol yn eu gwneud mewn perygl arbennig o COVID-19. 

Lansio’r Cerdyn Gofalwyr (CS Ceredigion)  

 Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi lansio Cerdyn Gofalwr i ofalwyr di-dâl sy’n gofalu am aelodau o’r teulu neu ffrindiau, na fyddai’n gallu ymdopi ar eu pennau eu hunain heb gymorth na’r gofal y mae gofalwyr di-dâl yn eu darparu. 

Mae’r Cerdyn Gofalwr yn gerdyn adnabod a llun, a gyhoeddir gan Uned Gofalwyr Cyngor Sir Ceredigion, i ofalwyr sy’n 18 oed a hyn ac sydd wedi cofrestru gyda Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr y cyngor.  

Mae’r cerdyn wedi cael ei ddatblygu mewn ymateb i bandemig Covid-19. Yn ystod misoedd cyntaf y pandemig, cysylltodd nifer o ofalwyr a’r cyngor i ofyn am rywbeth y gallent ei ddefnyddio i brofi eu bod yn gofalu am unigolyn pe bai rhywun yn eu herio pan fyddent yn casglu neu’n cludo nwyddau hanfodol i’r unigolyn hwnnw. 

Bydd gan ddeiliaid y cardiau fynediad at gyfleoedd siopa wedi’u blaenoriaethu gyda masnachwyr sy’n rhan o’r cynllun. Mae rhestr o’r masnachwyr hynny, ynghyd a buddion eraill y cynllun, ar gael ar dudalen Cerdyn Gofalwyr y cyngor. 

Gwasanaeth Cymorth Cymunedol Conwy (CBS Conwy) 

Sefydlodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy linell gymorth y Gwasanaeth Cymorth Cymunedol (GCC) ym mis Mawrth 2020, a'i bwrpas oedd darparu cymorth i unrhyw un yn y gymuned nad oedd yn gallu galw ar ffrindiau, teulu neu gymdogion i ofyn am help i wneud siopa, danfon meddyginiaeth ac ati. Darparwyd cymorth i ddechrau trwy baru gwirfoddolwyr ac yna fe symudon ni ymlaen i ddefnyddio staff a adleoliwyd dros dro o wasanaethau eraill yn y cyngor. Anogwyd gwirfoddolwyr i gofrestru gyda Chymorth Cymunedol a Gwirfoddol Conwy (CVSC) i gael eu paru â sefydliadau lleol. Mae gan CBS Conwy gytundeb â nifer o siopau lleol a’r ddwy siop Tesco yn y sir i gymryd taliad dros y ffôn gan unigolion sy'n defnyddio'r GCC ar gyfer ceisiadau siopa. Pan fydd Staff Conwy wrth y til, mae'r siop yn ffonio'r cwsmer sydd wedyn yn talu am ei siopa dros y ffôn. Mae yna broses mewn lle hefyd i gynorthwyo os nad oes gan unigolion fodd i dalu gyda cherdyn dros y ffôn. Mae'r gwasanaeth GCC wedi'i ostwng yn unol â llacio’r rheolau clo ac mae nifer y ceisiadau a dderbyniwn yn lleihau. Mae pob meddygfa a fferyllfa wedi cael gwybod ac wedi cael eu hannog i gofrestru gyda'r Groes Goch os oes angen cymorth arnynt i ddosbarthu presgripsiynau.

Prosiect Galw Rhagweithiol a gwasanaeth cyfeillio Sir Ddinbych (CC Sir Ddinbych) 

Yn ystod y cyfnod clo fe sefydlodd Cyngor Sir Ddinbych y ‘prosiect galw rhagweithiol’. Yn ogystal â ffonio'r holl breswylwyr yn y sir oedd yn gwarchod eu hunain, aethant ati hefyd i ffonio'r holl bobl ddiamddiffyn dros 70 oed nad oeddent yn gwarchod eu hunain. Cynhyrchwyd sgriptiau a dilynwyd hynny i sicrhau fod yr holl breswylwyr yn cael cynnig yr holl gefnogaeth oedd ar gael gan gynnwys atgyfeiriad i Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (sy'n cysylltu gwirfoddolwyr gyda'r rhai hynny sydd angen cymorth ychwanegol) neu gefnogaeth gan wasanaeth cyfeillio'r cyngor.

Sefydlwyd y gwasanaeth cyfeillio i helpu’r rhai oedd yn teimlo’n ynysig ac eisiau rhywun i sgwrsio â nhw. Mae gwirfoddolwyr, gan gynnwys cynghorwyr, yn sgwrsio gyda phreswylwyr i helpu eu lles yn ystod y cyfnod hwn sy’n ansicr ac i rai yn gyfnod unig hefyd.

Mae’r gwasanaeth cyfeillio yn parhau ar ôl llawer o lwyddiant yn ystod y cyfnod clo.

Mae Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych hefyd yn parhau gyda’u cefnogaeth, gan gysylltu gwirfoddolwyr gyda’r rhai sydd angen ychydig o gymorth ychwanegol e.e. gyda siopa a chasglu presgripsiynau.

Mae Pecyn Adnoddau Cymunedol Cyngor Sir Ddinbych, sydd wedi ei lunio i helpu preswylwyr gyda chefnogaeth yn ystod y cyfnod clo, yn parhau i gael ei ddiweddaru ac ar gael ar y wefan.

Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cefnogi ysgolion gyda dysgu yn y cartref (CBS Castell-nedd Port Talbot) 

Fe fu ysgolion yn cefnogi dysgu yn y cartref drwy gydol y cyfnod clo.

Fe gynhaliodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot arolwg o’u holl ysgolion yn ymwneud â’u darpariaeth dysgu o bell a lluniwyd Cynllun Parhad Dysgu a chafodd ei rannu gyda’r holl ysgolion o ganlyniad.

Roedd yr arolwg yn nodi unrhyw ddiffygion yn ymwneud â hyfforddiant a’r gefnogaeth oedd ei hangen a chefnogwyd unrhyw ysgol oedd angen cymorth technegol er mwyn darparu dysgu o bell gan swyddogion y cyngor.

Mae’r cyngor wedi darparu dros 1000 o ddyfeisiau ar gyfer disgyblion nad oes ganddynt offer TG priodol na / neu fynediad i’r rhyngrwyd.

Wrth baratoi ar gyfer ailagor, fe baratôdd yr holl ysgolion yng Nghastell-nedd Port Talbot gynlluniau adfer ac asesiadau risg wedi eu seilio ar y canllawiau a ddarparwyd gan dîm gwella ysgolion y cyngor a Llywodraeth Cymru, a darparodd y cyngor ganllawiau ar Ddysgu Cyfunol. Wrth i'r ysgolion ailagor fe sicrhaodd y cyngor fod Penaethiaid yn derbyn cefnogaeth wythnosol i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt ar ddatblygiadau allweddol ac i drafod pryderon. Sefydlwyd porthol Cwestiynau Cyffredin pwrpasol.

Tudalen 2 o 7 << < 1 2 3 4 5 6 7 > >>
http://www.wlga.cymru/Blog/ViewCategory.aspx?cat=71&pageid=723&mid=2030&pagenumber=2