Mae cynghorau Wrecsam, Sir Ddinbych a Sir Y Fflint wedi gweithio mewn partneriaeth i ddarparu Gwasanaeth Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol i Ogledd Ddwyrain Cymru. Mae’r gwasanaeth yn cefnogi oddeutu 40 o grwpiau cymunedol a sefydliadau trydydd sector sydd yn eu tro yn cynnig cefnogaeth weithgar i gymunedau lleiafrifol.
Ers Mawrth 2020, mae’r Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol wedi parhau i gefnogi cymunedau ond fel gyda’r rhan fwyaf o wasanaethau mae’r ffocws wedi mynd i’r afael â’r heriau sy’n ein hwynebu yn sgil COVID19. Mae cyfanswm o tua £20,000 wedi cael ei wobrwyo mewn grantiau i gefnogi cynlluniau penodol fel:
-
darparu parseli bwyd, cyfarpar diogelu personol a chefnogaeth ar-lein;
-
pecynnau gwybodaeth wedi’u cyfieithu;
-
gweithgareddau cadw pellter cymdeithasol yn ystod gwyliau’r haf;
-
cefnogaeth mewn perthynas â thrais domestig a chamddefnyddio sylweddau yn ystod Covid-19;
-
cyfleoedd gwirfoddoli ac ymrwymo’r gymuned ar ôl Covid-19; a
-
chefnogi’r Gymuned Teithwyr lleol yn ystod Covid-19 gyda chefnogaeth addysg o bell.
Dydi Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol ddim yn gorffwys ar ei bri. Mae’n sefyll ar banel cronfeydd argyfwng Covid-19 Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ac yn gweithio gyda CMGW a phartneriaid allweddol i adnabod a sicrhau cronfeydd mawr a mwy cynaliadwy i gefnogi cymunedau lleiafrifol ac unigolion gyda nodweddion rhagamcanol.